Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EINION AB DAFYDD LLWYD ydoedd foneddwr cyfoethog a breswyliai yn y Wern Newydd, Llanarth. Croesawodd Iarll Rismwnt ar ei daith. o Aberdaugleddau i Faes Bosworth. Bu hyny yn godiad i Einion ar ol coroniad yr Iarll yn frenin Lloegr. Daeth cangen o Lwydiaid Llanarth, sef disgynyddion Einion, i Lanborth, plwyf Penbryn; ac y mae eu disgynyddion yno heddyw. Merch Llwyn yr Heol, Llanarth, oedd mam y diweddar John Lloyd Williams, Ysw., Gweranant, yr hwn oedd hanedig o Einion.

ELFFIN AB GWYDDNO sy gymmeriad hynod yn ein llên Fabinogaidd. Dywedid fod gan ei dad ored bysgota ar y traeth rhwng Aberdyfi ac Aberystwyth, ac mai yno y cafwyd Taliesin! Geliir gweled yr hanes ym Mabinogi Taliesin, &c.


ENOCH, JOHN, a aned yn Nhroed yr Aur. Yr oedd yn fab i Enoch Hywel, yr hwn oedd fab Dafydd Hywel, y bardd o'r Wernlogws, yr hwn deulu oedd yn disgyn yn gywir o Gradifor Fawr, Arglwydd Blaencych. Rhedai yr achres fel y canlyn:— John ab Enoch ab Dafydd ab Hywel ab Hywel ab Einion ab Dafydd ab Hywel ab Ieuan ab Dafydd ab Gruffydd ab Rhys ab Llywelyn ab Ifor ab Llywelyn ab Ifor ab Llywelyn ab Ifor ab Bledri ab Cadifor Fawr. Y mae Gwernlogws yn ymyl hen lys Cadifor Fawr; ac yr oedd tua 70 mlynedd yn ol ym meddiant Howell Davies, ewythr John Enoch. Yr oedd yn weddill o hen gyfoeth Cadifor, ac wedi dal yn feddiant y teulu hyd amser Howell Davies, yr hwn a'i gwerthodd. Ymunodd John Enoch â meiwyr Ceredigion pan Yn lled ieuanc. Daeth yn y blaen i fod yn gadben a phentalwr y meiwyr. Yn ei gorffolaeth yr oedd yn dal, cadarn, prydferth, a siriol; ac yn ei ymddygiad yn foneddigaidd a hawddgar, ac yn llawn natur dda. Yr oedd yn fawr ei barch; ac nid oedd neb o foneddigion y wlad oddi amgylch yn gosod eu plant yn y fyddin heb ymgynghori â Mr. Enoch. Bu farw Chwefror 10, 1833, yn 74 oed. Preswyliai yn Aberarthen Fach, yr hwn ddarfu iddo brynu ac adeiladu arno. Wyr iddo yw Mr. John Thomas, Crymnant. Mab cyfnither iddo yw y Parch. D. Silvan Evans, B.D., Llan ym Mawddwy, Meirion.