Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfieithodd ran o Esboniad y Dr. Gill ar y Testament Newydd i'r Gymraeg. Ysgrifenodd hefyd Esboniad ar Lyfr y Dadguddiad. Cyhoeddodd Mr. Evans yn y flwyddyn 1810, Mene Tecel, sef adolygiad ar waith Wesley ar Etholedigaeth. Cyfansoddodd lawer heb law hyny, ac ysgrifenodd lawer i'r cyfnodolion. Yr oedd yn emynwr da. Y mae "Christmas" yn uchel iawn yn nheml anfarwoldeb enwoion Ceredigion, Cymru, a Phrydain Fawr.

EVANS, DANIEL, B.D. (Daniel Ddu) a gafodd ei eni ym Maes Mynach, plwyf Llanfihangel Ystrad, yn y flwyddyn 1792. Yr oedd yn ail o dri mab. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfoethog a chyfrifol; a chafodd y bardd ei anfon yn ieuanc i'r ysgol at y Parch Eliezer Williams, i Lanbedr. Ar ol bod yno am dro, efe a aeth i Rydychain, i Goleg Iesu, yn yr hwn ym mhen amser yr etholwyd ef yn Gymmrawd, a graddiwyd ef yn Wyryf Duwinyddiaeth; ac wedi hyny a urddwyd. Parhaodd i fwynhau y gymmrawdwriaeth am flynyddau lawer. Daeth Daniel Ddu yn fuan i enwogrwydd fel bardd ac ysgolor Cymreig a chyffredinol. Ennillodd Gadair Dyfed yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1823, sef Awdl ar Goleg Dewi Sant. Ennillodd hefyd amryw wobrau ereill. Daeth i sylw braidd ar unwaith, nes synu y wlad. Ar ol ei Iwyddiant yn Eisteddfod Caerfyrddin, cynnaliwyd cyfarfod yn Llanbedr i ddangos cydorfoledd, pryd y cafodd ei anrhegu â dysglau arian. Cyhoeddodd gyfrol o'i waith yn y flwyddyn 1831, o'r enw Gwinllan y Bardd yn cynnwys 410 o dudalenau; a dywedir iddo gyfansoddi digon i wneyd cyfrol arall o'r un maintioli. Yr oedd Daniel Ddu yn fardd naturiol, yn llawn tlysni melus; ac y mae rhyw swyn o deimlad dynol a Christionogol yn rhedeg trwy y cyfan o'i waith. Yr oedd yn llawn teimladau tyner a dyngarol Y mae ei awdl ar Greulondeb at Greaduriaid Mudion yn dangos teimladau hyfryd; yn ddysgrifiaid effeithiol o'r gamdriniaeth y mae creaduriaid mudion yn gael gan ddynion. Y mae ei bennillion i'r "Ddafad" yn llawn tlysni o'r fath mwyaf tyner. Tasga dagrau o lygaid y darllenydd wrth eu darllen. Y mae "Dychweliad y Mab Afradlon " yn orlawn o'r syniadau mwyaf trydanol a ellir