Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EVANS, EVAN (Ieuan Brydydd Hir), y bardd, yr hynafiaethydd, a'r ysgolor enwog, a anwyd yn y Cynhawdref, plwyf Lledrod, yn y flwyddyn 1730. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ei ardal enedigol, yn Ystrad Meirig, o dan yr enwog Edward Richard. Ar ol hyny, efe a symmudodd i Rydychain, ac ymaelododd yng Ngholeg Morton, yn y flwyddyn 1751. Yr oedd yn berchen tyddyn yn ei ardal enedigol, yr hwn a drosglwyddodd drosodd i'w frawd ieuengaf, er mwyn cael arian i'w gynnal yn y brifysgol. Ar ol gadael y coleg, gwasanaethodd fel curad mewn amryw fauau o'r wlad; yn y Tywyn, Llanberis, Llanllechyd, Llanfair Talhaiarn, a manau ereill. Pan yn ieuanc efe a ddangosodd hoffder mawr at yr Awen ; ac yn fuan daeth i sylw yr enwog Lewis Morris, yr hwn a fynwesai dyb uchel am ei alluoedd oddi wrth ei gynnyrchion awenyddol Treuliai y Prydydd Hir ei holl oriau hamddenol yng ngwrteithiad llenyddiaeth ei wlad; ac yr oedd yn talu sylw dibaid ac egnïol i lawysgrifau Cymreig ; ac adysgrifenodd nifer fawr, gan adael ar ei ol gant o gyfrolau o wahanol faint Treuliodd ran fawr o'i oes yn y modd hwn, heb gael y sylw lleiaf gan awdurdodau yr Eglwys — dim y dyrchafiad lleiaf! Yn y modd hwn, darfu yr ysgolor, y duwinydd, a'r gwladgarwr gonest, ymollwng i ysbryd llwfr ac anfoddlawn, a dywedir ei fod ar brydiau yn tueddu i yfed i ormodedd. Ond ef allai fod pwys gormodol yn cael ei roddi ar hyn, er mwyn lleihau y diystyrwch a'r anghyfiawnder a gafodd trwy beidio rhoddi i'r fath ddyn galluog ddyrchafiad yn yr Eglwys. Bu yn tramwy Cymru a Lloegr i chwilio am guradiaeth, ond yn fynych yn methu ei chael. Y mae y Parch. Eliezer Williams, diweddar o Lanbedr, yn traethu hanesyn tra effeithiol am dano. Tra yr oedd Mr. Williams yn aros yn Lloegr, gwelai un diwrnod, ychydig cyn cinio, ddyn tal yn dyfod at y drws, a phwy oedd ond y Prydydd Hir; ac felly cafodd ei dywys i'r parlawr, Yr oedd gwr boneddig gyda Mr. Williams; ond nid oedd modd i un o honynt gael fawr o siarad gan y bardd; efe a edrychai yn bendrist iawn. Ond ar ol cinio gysurus, ac ychydig win, daeth yr hen ysgolor a'r hynafiaethydd i hwyl ragorol; ac yr oedd