Nis gwyddom pa bryd y cyhoeddwyd y cyfansoddiadau canlynol, am nad oes gopi o honynt - wrth law genym:-
"Pregeth ar Ymneillduaeth."
"Pregeth ar Ddiwygiad Crefyddol." "
"Cyflwr Gwreiddiol Adda a'i Gwymp, yn nghyda'i nodweddiad fel Cynnrychiolwr ei Hiliogaeth."
"Nad yw Anghrediniaeth dynion yn gwneuthur ffydd (neu drefn) Duw yn ofer."[1]
Y mae'r holl gyfansoddiadau yna, fel pob peth arall a ysgrifenwyd gan Mr. Morgan, yn arddangosiad o feddwl cryf a threiddgar, barn addfed a llwyr annibynol, medr a chraffder rhagorol mewn rhesymeg, ac iaith bur a chyfoethog, etto nerthol a chadarn, os nad yn rhy lem wrth ymdrin â phleidiau o wahanol farnau. Ni welid byth mono ef yn cellwair gyd a'r gwirionedd, neu'n curo yn ddiofal o'i gwmpas; ond agorai ef i'r gwaelod, a hyny gyd â hyfdra diarswyd un yn teimlo mai gair oddi wrth Dduw oedd ganddo i'w dreuthu. Ar fyr, un ydoedd Mr. Morgan, a'i gymmeryd oll dan ystyriaeth, na chyfyd ei gyffelyb ond anfynych ym mysg cenedl.[2]
JOHN WILLIAMS (Y CYNTAF).
Ganwyd ef ger llaw Bodedern, Môn, ar yr 28fed o Ebrill, 1779; ond gan mai yn Llanrwst yr ymunodd a'r achos crefyddol, y dechreuodd bregethu, ac mai oddi yno yr aeth yn bregethwr teithiol yn y f. 1805, fel John Williams, Llanrwst, y mae'n fwyaf adnabyddus. Efe ydoedd awdur y llyfr canlynol:—
Egwyddorydd Ysgrythyrol; neu Gatecism ar brif Athrawiaethau a Dyledswyddau y Grefydd Gristionogol. 1828."[3]
Hwn ydyw y "llyfr holi" mwyaf hwylus yn yr enwad. Bu'r Parch. John Williams yn Gadeirydd y Dalaeth Gymreig yn y blynyddoedd 1819 ac 1820. Enciliodd o'r gwaith yn y fl. 1834. farw yng Nghaerfyrddin ar yr 16fed o Dachwedd, f 1865, yn 87 oed, gan adael tystiolaeth ar ei ol ei fod yn myned i wlad sydd well i fyw. Prif byngciau ei bregethau oedd mawredd dirywiaeth dŷn, a heleuthrwydd gras Duw. Yr oedd yn Drefnydd goleuedig a ffyddlon. Meddai lawer o dalent farddonol, a gadawodd rai darnau tlysion ar ei ol. Daeth i berchenogi cryn lawer o gyfoeth, a bu ei haelioni yn gyfartal i'w foddion.
Ysgrif y Parch. H. Jones, Caerleon.
EBENEZER RICHARD
Mab hynaf ydoedd y gŵr enwog hwn i Henry Richard, o'i ail wraig Hannah. Ganwyd ef ar y 5med o Ragfyr, 1781, ym mhentref Treffin, ymhlwyf Llanrhian, sir Benfro. Yr oedd ei dad yn ŵr duwiol a dichlynaidd, a bu'n bregethwr defnyddiol a chymmeradwy gyd â'r Methodistiaid am 60 mlynedd. Yr oedd ei fam hefyd yn wraig rinweddol a duwiol iawn; a'r canlyniad dedwydd oedd iddo ef a'r plant eraill gael eu meuthu "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd” o'u mebyd. Nia gwyddom pa fanteision addysg a gafodd. Dywedir y bu ei dad ya athraw mewn cyssylltiad âg ysgolion Madam Bevan mewn amryw fanau yn Neheudir a Gogledd Cymru, a cheir gweled yn ebrwydd y bu yntau yn athraw gwahanol ysgolion; gan hyny, gellir casglu iddo gael rhyw fanteision addysgol heb law gan ei rieni duwiol gartref. Yn y fl. 1796, pan oedd efe yn 15 oed, cafodd glefyd trwm, a bu rhagddarbod am ei einioes; ond cafodd adferiad. Yn fuan wedyn, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys ar ei ymgyflwyniad ei hun, ac nid mwyach, fel o'r blaen, ar gyfrif ei rieni. Ymhen yspaid o amser ar ol hyn, symmudodd o breswylfod ei rieni i le a elwir Brynhenllan, rhwng Trefdraeth ac Abergwaun, i gadw ysgol. Pan yn y le hwn, ac yn tynu at 20 oed, cafodd argyhoeddiad mor danllyd nes effeithio ar ei iechyd a'i synwyr, a bu raid iddo roi ei alwedigaeth fel
- ↑ Traethiodyn ydyw hwn sydd yn yr "Attodiad" ir " Galwad Ddirifol (t. 86), neu'r "Llyfr Glas," fel y gelwid gan yr awdur, y Parch. John Roberta. Llanbryn-Mair.
- ↑ Cofiant y Parch. J. Griffith; Dysgedydd, 1836, t. 885; Traethodydd, llyfr i, t. 278 The Congreg. Year Book, 1859; Han. Egl. Annib. Cymru, cyf. i., t. 276, 289; Gwyddoniadur, cyf. vii., t. 589; En. Cymru, I. F., t. 732; En. Sir Aberteifi, t 113; En. Cymru, J. T. J., cyf. ii., t. 281.
- ↑ Yr ail argraphiad, a gyhoeddwyd yn y fl. 1830, sydd wrth law genyn ni. Y mae'n llyfryn trwchus, 16plyg, yn cynnwys 889 o dudalenau, ac 8 tudalen o arweinolion. Dengys y gwaith lafur dirfawr, a chydnabyddiaeth nodedig yr awdur galluog a'r holl Ysgrythyrau. Nid yw yr attebion yn gyffredin ond byrion, a phrofir pob un, yn hynod briodol, i'n tyb ni, âg adnod neu adnodau, at y sawl y cyfeirir yn ofalus