Tudalen:Enwogion y Ffydd Cyf II.pdf/464

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Ebenezer Richard yn un o'r pregethwyr mwyaf defnyddiol a dylanwadol yng Nghymru. Anfynych y ceir dŷn, mewn unrhyw oes, yn meddu'r fath uniad hapus o gynnifer o gynheddfau gwasaneuthgar. Yr oedd yn addfwyn iawn, ac etto yn benderfynol; yn hynod o dduwiol, ac etto heb un gradd o ffug sancteiddrwydd; yn effeithiol iawn fel pregethwr, bob amser, ac ar brydiau yegubai ei hyawdledd boppeth o'i flaen; yn ofalus a threfnus neillduol fel arolygydd gweithrediadau ei gyfundeb crefyddol, ac yn ddiwyd a diorphwys ynghyflawniad ei holl ddyledswyddau.

Nid oes genym hanes i ddim o waith Mr. Richard gael ei gyhoeddi, ond yr hyn sydd yn ei "Fywyd," gan ei feibion, E. W. Richard a H. Richard. Y mae'r gyfrol wir werthfawr honno yn cynnwys lliaws mawr o'i lythyrau at ei blant, a gwahanol gyfeillion, ac y maent yn rhagori o ran tynerwch duwiol, addysgiadau crefyddol, a gofal am achos y Gwaredwr bendigedig, ar unrhyw lythyrau a ddarllenasom ni, oddi eithr eiddo yr apostolion. Hefyd, cynnwys y llyfr "Rai o ddywediadau Mr. Richard ar amryw destynau, ac ar wahanol achlysuron;" talfyriad o amryw o'i bregethau; ac "engreifftiau o brydyddiaeth Mr. Richard." Y mae rhai pennillion o'i brydyddiaeth yn dangos y gallasai efe fod yn fardd gwych pe rhoddasai gymmaint o'i sylw i farddoniaeth ag a roddes i dduwinyddiaeth a chrefydd.*

WILLIAM WILLIAMS O'R WERN.

Wele un o'r "tri chyntaf" yn ei oes, yng Ngogledd Cymru. Christmas Evans a John Elias, fel y gwelsom, oedd y ddau eraill. Ganwyd William yn y fl. 1781, mewn lle mynyddig a elwir Cwmhyswnt-ganol, ymhlwyf Llanfachreth, sir Feirionydd. Ei rieni oedd William a Jane Probert; ac enw cyntaf y tad a roddwyd yn gyfenw i'r mab, yn ol arfer gyffredin y Cymry yn y dyddiau hyny.

Yr oedd ei rieni yn dal tyddyn bychan, ac yr oeddynt yn gymmydogion hynaws a thangnefeddus. Yr oedd ei fam yn wraig rinweddol iawn, ao yn proffesu gyd a'r Methodistiaid. Nid yw hyspys fod ei dad yn proffesu gyd ag un enwad; ond yr oedd yn ŵr dichlynaidd, ac arferai gynnal addoliad yn ei deulu. Yr oedd William yn naturiol o dymmer lawen, siriol, a chwarëus; yn gymmaint felly fel y dywedai ei dad yn fynych am dano, na wyddai yn iawn beth a ddeuai o hono, a'i fod yn ofni y byddai'n od ar holl blant y gymmydogaeth; "ac yn wir," medd ei fywgraphydd enwog, y Parch. Wm. Recs, D.D. (Hiraethog), "felly y bu: ni fagwyd o'r blaen ei gyffelyb yn yr holl ardaloedd hyny, nac ar ei ol ychwaith, hyd yma." Pan oedd tua 13 oed, teimlodd argraphiadau dwysion ar ei feddwl, wrth wrando y Parch. Rhys Dafis,* Saron, sir Gaerfyrddin, yn pregethu mewn lle a elwid Bedd-y-coedwr. Derbyniwyd y llangc, William, cyn ei fod yn 15 oed, yn gyflawn aelod yn hen gapel Penyetryd, Trawsfynydd. Yr oedd derbyn un mor ieuangc yn beth anghyffredin yn yr oes honno, ac yr oedd уnо lawer yn barod i ofyn, "Beth a fydd y bachgen hwn ?"† er na ddaeth i galon yr un o honynt ddychymmyg y deuthai yr hyn y daeth ar ol hyny.

Nid oedd wedi cael odid ddim ysgol; ond dysgasai ddarllen Cymraeg yn lled ieuangc, a hyny, y mae'n debyg, trwy gymmorth ei dad a'i fam. Ymddengys mai ychydig iawn o lyfrau oedd at alwad y bachgen William y pryd hyny. Dywedir mai y rhai a hoffai fwyaf, heb law y Bibl, oedd "Traethawd ar Benarglwyddiaeth Duw," gan Eliseus Cole, ‡ a "Llwybrau Nefolaidd, &c.," a briodolir i'r Esgob Hall. Yr oedd ei chwaer Catherin yn cyd-ddechrau proffesu âg ef, ac yr oeddynt yn hynod hoff o'u gilydd. Arferai ef fyned a'i lyfrfa fechan gyd âg ef o'r neilldu i le dirgel; a phan holai ei dad am dano i wneud rhywbeth, megis porthi neu ddyfrhau yr anifeiliaid, rhedai ei chwaer




  • Bywyd y Parch. E. Richard, gan ei feibion, E. W. R. & H. R.;

Method. Cymru, cyf. ii., t. 108; Gwyddon., cyf. ix. t. 117; Enwog. Cymru, I. F., t. 897; Enwog, Sir Aberteifi, G. Menai, t. 132; Cofiant J. Jones, Talearn, O. T., t. 890; Enwog. Cymru, J. T. J., cyf. ii. t. 483; Cymru, O. J., cyf. ii., t. 490. + Cwm-y-swn, yn ol rhai, tra y tybia eraill y tardd yr enw o Cwm- wy-y-sw, mewn cyfeiriad at yr Afon Disyni, Di-swn-wy.


  • "Y gŵr hwn a ddaeth, wedi hyny, yn dra adnabyddus fel Rhys

Dafis y glun bren. Nid oedd Rhys Dafis ond pregethwr tra chyft- redin, a nodedig o arw a thrweg! ei ddawn; ond yr oedd gan Mr. Williams barcb dwin iddo trwy ei oes, fel ei dad yn yr efengyl"- Han. Egl. Annib. Cymru, cyf. iv., t. 15. WW

† Dywedai y Parch. W. Jones, Trawasiyaydd, hen weinidog Peny- stryd, pan aeth William i'r gyfeillach eglwysig, yn llencyp 15 oed, yn ei bogaa lizin, a'r olwg arno led wael a difoes, na wyddai efe a'r eglwys yn y byd beth i wneud âg ef, pa un ai ei dderbyn ai peidio, er bod elfennn y dya mawr, Williams o'r Wern, yn y llango y pryd hwnw, a daeth ei lafur a'i ddiwydrwydd ef i'r golwg yn fuan.-E. Cymru, J. T. J., cyf. ii., t. 649.

Yr oedd dan argraphiad o'r gwaith hwn wedi eu cyhoeddi yn Gymraeg cyn bod Williams yn 13 oed, sef yn 1729 ac 1760. Yr unig lyfr Bydd yn cynnwys enw Hall, oedd yn Gymraeg, oedd yr uchod, cyn i Williams fod yn 13 oed, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1782. Ei enw yn Gymraeg sydd fel hyn:- Llwybrau Nefolaidd, &c. A gasglwyd o lyfr a argraphwyd yna y flwyddyn 1664, fel yr ymddengys trwy gymmeradwyaeth Dr. J. Hall Wedi ei droi i'r Cymraeg gan J. Davies.

Mewn llythyr at y Parch. W. Rees, dywed y Parch Cad. Jones, Dolgellau, fel hyn:" Adwaenwn y brawd WILLIAMS [o'r Wern] er yescryn amser cyn iddo ddechrau pregethu. Arferai ddyfod i Lanuwchllyn i ambell odfa a chyfarfod blynyddol s gynhelid yno. Meddyliai y pryd hyny am fyned yn saer coed, ac arferai naddu mwy na'r rhan fwyaf o'i gyimmydogion; ond pan y cafodd annogaeth i bregethu