Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heb fod o ddim cymorth iddi, a gwelant fuddugoliaeth yr iaith yn ffyddlondeb gwladgar y plant. Trwy'r plant y codir yr hen wlad yn ei hol.

Cymerodd Castell Nedd un cam, cymered Corwen y cam nesaf. Daeth Castell Nedd a'r plant i ganu yn yr Eisteddfod, doed Corwen a hwy i holl waith un dydd. Rhodder dydd y plant yn gyfangwbl iddynt hwy eu hunain,—canu bid sicr, ond traethawd hefyd, a darlun, ac adrodd, a map, a'r holl fyd cyfoethog sy'n ymagor o amgylch plentyn yn ysgolion Cymru.

Cymered yr Eisteddfod afael ym mhlant Cymru. Y plant yn unig fedr ei chadw'n fyw, a chadw'r nodweddion cenedlaethol sydd eto mewn bri yn ei phebyll.