Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd wedi dangos tipyn mwy o fedrusrwydd na'r cyffredin ym mrwydrau diweddar Lloegr. Er hynny, ni thalai cynlluniau hen ffasiwn y ddau hyn ddim yn erbyn cadlywyddion Holland, neu Denmarc, neu y Swêd, heb sôn am gadlywyddion yr Almaen. Yr oedd y dull a gymerodd Wolseley i ymosod ar yr Eifftiaid yn y frwydr ddiwethaf yn un a arferid yn fynych ers talm. Ofer fuasai ei arfer eilwaith hyd yn oed yn erbyn yr Eifftiaid, gan mor hawdd ydyw ymbaratoi ar ei gyfer.

*

Nid oes gennyf i ddim parch i Wyddelod o'r fath yma, sydd yn ymwerthu i ryfela rhyfeloedd anghyfiawn Lloegr, yn lle arfer hynny o allu sydd ganddynt i geisio rhyddhau eu gwlad eu hunain. oddi wrth iau estronol. O na chodid ail Napoleon, mwy rhyddfrydig na'r cyntaf, i wneud i genhedloedd gormesol dynnu eu crafangau atynt, fel y gallai Cymru, Iwerddon, Bohemia, Poland, yr Aifft, a'r Ind eto godi eu pen! Pa hyd y goddefir i un genedl gadw un arall yn gaeth yn erbyn ei hewyllys? Nid oes dim yn fwy poenus i ddynion cyfan na meddwl eu bod yn aelodau o genedl ddarostyngedig. Gall hanner dynion anghofio eu bod yn gaeth, ie, gallant fyned yn y man i anghredu hynny. Y fath yw dylanwad caethiwed! Y mae hapusrwydd y dyn