Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Loegr i ddweud bod y bobl yn rhegi Arabi. Y mae'r adroddiadau hyn, gan mwyaf, yn dyfod oddi wrth yr un personau diymddiried ag sydd wedi camarwain pobl Lloegr o'r dechrau. Yr Eifftiaid Seisnig a'r swyddogion Seisnig oedd yn taeru nad oedd y bobl yn pleidio Arabi, ac nad oedd ef yn ddim amgen nag arweinydd gwrthryfel milwrol; ac yn hytrach na chyffesu llwyred eu camsyniad, y maent eto fyth yn chwannog i weled difrifoldeb yn y croeso a roddwyd i'r Khedive, a chasineb nad yw yn ddiau'n bod, at Arabi.". . . "Y mae'n beth hollol hysbys mai'r Control ynghyd â'r cyflogau afresymol a roddid i Ewropiaid wedi eu gwthio ar yr Eifftiaid oedd achos cyntaf yr holl helbul yn yr Aifft. Hyn a roes ddechreuad i'r llef, 'Yr Aifft i'r Eifftiaid.'" Yr un peth a dystiolaetha gohebydd y Daily News ar yr un diwrnod, megis y dengys y dyfyn hwn: "Amlwg yw nad ymfoddlona'r bobl ar unrhyw ffurf o lywodraeth a dueddo i ddarostwng ymestyniadau cenhedlig. Mynych y clywir y swyddogion Seisnig uchaf yn dweud mai pleidwyr Arabi ydyw'r fyddin, ac eto cydnabyddir yn hollol gyffredinol fod y fyddin yn cynrychioli teimladau corff y bobl."

Fe allai y buasai'n garedicach amgeneirio na chyfieithu'r dyfynion uchod. Nid oes neb ar gystal tir â chyfieithwr i weled cyn lleied sydd gan ysgrif-