Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IX

Y WLADFA

FONEDDIGION,

Goddefer i mi ddweud na wn i ddim am yr Ap Iwan yr achwynodd Mr. Michael D. Jones arno yn Y Faner ddydd Mercher diwethaf am ddywedyd yn erbyn y Wladfa mewn newyddiadur arall. Hyd yn oed pe buaswn ar dir i ddywedyd nad yw Dyffryn Camwy y lle gorau i gartrefu ynddo, ni fynaswn er dim ddangos fy mod yn anniolchus i Mr. Jones am ei ymdrechion gorchestol i gadw'r Cymry'n genedl. Beth bynnag a ddywedir am y Wladfa, rhaid addef mai Mr. Michael Jones yw'r gorau o'r Cymry; a'i fod, oblegid yr hyn ydyw ac a wnaeth, yn haeddu mwy o anrhydedd na neb byw arall gan ein cenedl ni. Y mae yn y Dywysogaeth fwy na digon o Dorïaid a 'Rhyddfrydigion,' o drochwyr a thaenellwyr, a rhyw bleidiau felly; eithr y mae ynddi lawer rhy ychydig o Gristnogion ac o Gymry. Y mae'n amheuthyn cael Cymro yn dyfeisio ac yn dargeisio rhywbeth mawr cenhedlig, ac yntau o genedl wedi ei pharlysu gan hir orthrwm gwladol, a chan enwadaeth eglwysig o'r fath gulaf a