Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

X

LLYTHYR ALLTUD

O L——, YNG NGHYMRU,
y зydd o Dachwedd, 1882.

FY ANNWYL DAD,

Rhaid i ti a'm ceraint eraill yn Fflandrys ysgrifennu'n helaethach ac yn fynychach ataf nag y gwnaethoch hyd yma, onid e, rhaid imi ddychwelyd adref cyn gorffen dysgu Cymraeg. Daeth gaeaf trist Prydain ar fy ngwarthaf cyn yr amser. Daeth tawch Tachwedd i'r wlad cyn canol mis Hydref, a pha alltud a ddichon aros yn y fath wlad heb gael llythyrau yn fynych o fro siriolach? Nid yw ein hoff Fflandrys, y mae'n wir, mor glir a sych ei hawyr â thaleithiau uchaf Belg (heb sôn am Ffrainc a'r Ital), ond y mae hi'n baradwys wrth Brydain—yn baradwys o ran ei hawyr, dealler, ac nid o ran ei golygfeydd. Y mae ym Mhrydain, ac yng Nghymru yn enwedig, olygfeydd nad oes mo'u hardded yn holl Fflandrys; er hynny, golygfeydd ydynt sydd, ysywaeth, yn fynychach o'r golwg nag yn y golwg. Gwn fod o'm blaen ddyffryn tirion, a mynydd