Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chysylltiad â gwladwriaeth estronol a gwrth-genhedlig. Anffawd y rhan fwyaf o'r Ymneilltuwyr ydyw'r cyfleustra sydd gan eu blaenoriaid cyfoethog i ddynwared Arglwydd Beaconsfield a'r brenin Nebuchodonosor yn ddigerydd. Nid yw llawer o'r rhai hyn yn gwasanaethu nac yn cynrychioli un eglwys, a phaham y mae'n rhaid iddynt, a hwythau'n gwybod y pery eu brenhiniaeth hyd awr eu marwolaeth, a'u harswyd hyd derfyn dydd eu claddedigaeth? Gwybydd di na fynn rhai o'r Ymneilltuwyr cyfoethog ddim bod yn petty tyrants; ac na chaiff eraill ohonynt fod yn petty tyrants—mewn eglwysi y bydd ynddynt saith o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Pan fyddo amryw o gyfoethogion anghytras yn blaenori yn yr un eglwys, y mae'r naill, fel y mae orau, yn cymedroli gorfynt a dylanwad y llall. Nid yw'r rhai traheusaf o'r blaenoriaid ariannog yn ddigon anghall i herian a dial mewn modd uniongyrchol ar neb o'u gwrthwynebwyr; byddant yn ymddiried y bryntwaith hwn i'r diaconiaid.

Yr wyf wedi ysgrifennu mwy o'r hanner na hyn, ond rhag cael ohonot ormod o waith darllen ar unwaith, cadwaf y gweddill hyd yr wythnos nesaf. Fy annwyl dad, derbyn barch a serch puraf dy unig fab,

EMRIJ VAN JAN.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 13, 1882.