ofer. Cyfrifir pob un o'r Cymry a hudir yn dri, neu bump, neu saith o Saeson, yn ôl syniad y cyfrifwr am werth cymharol Sais a Chymro. Wedi hynny, cyhoeddir y cyfanrif mewn llyfryn fel y gwelo pobl y wlad fod ' achos yr Arglwydd yn myned rhagddo yn aruthrol, er gwaethaf gwrthwynebiad Sanbalat a'i lu; ac fel yr argyhoedder pawb fod eglwys Saesneg yn gofyn cymaint o gymorth ariannol wedi myned ohoni'n gref a phan oedd hi'n wan! A elli di synied, fy nhad, am breswylwyr Fflandrys yn lladd eu hiaith trwy sefydlu achosion Ffrancaidd cyfatebol i'r achosion Seisnigaidd hyn? Ac eto y mae'r Gymraeg gymaint tlysach na'r Fflemeg ag ydyw Cymru na Fflandrys. Yn wir, nid oes gan y Cymry mwyach ddim y gallant ymffrostio ynddo'n arbennig heblaw eu hiaith; ac wele! y maent trwy ddirfawr draul a thrafferth yn cynorthwyo eu darostyngwyr i ddileu honno! O! y Fandaliaid di—chwaeth, ai tybed y gwyddant pa beth y maent yn ei wneuthur? Ys anodd dirnad paham yr ymddiriedodd Rhagluniaeth iaith mor farddonol ac mor athronyddol i bobl y mae cynifer ohonynt yn rhy bŵl i weled ei gwerth.
Bu gynt ymosod nid bychan ar ein mamiaith ninnau; ond magodd hynny benderfyniad yn y Fflemiaid i fynnu diwygiadau gwladol sydd wedi