Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Peidiwch â chynhyrfu, wŷr Athen; glynwch wrth yr hyn a ofynnais gennych, sef peidio â chynhyrfu wrth y pethau a ddywedaf, ond gwrando. Yn wir, mi debygaf, cewch fudd o wrando. Canys yr wyf ar fin dywedyd wrthych bethau eraill, ac efallai y bloeddiwch allan rhagddynt; ond, da chwi, na wnewch hynny. Os lleddwch fi, nid hawdd fydd cael un arall tebyg—un sydd, mewn gair (er ei ddigrifed), yn eistedd ar y ddinas megis ar farch tal, telediw, sydd braidd yn swrth gan ei faint ac yn gofyn rhyw gacynen i'w gyffroi. Un felly ydwyf i, a chredaf fy nghyflwyno gan Dduw i'r ddinas; eisteddaf yn ddi-baid ar hyd y dydd ar bob un ohonoch ym mhob man, gan eich cyffroi a'ch perswadio a'ch ceryddu. Un arall o'm bath ni ddaw'n rhwydd i chwi, gyfeillion, ond os gwrandewch arnaf i, fe'm harbedwch. Chwithau, efallai, yn ddig fel rhai a gyffroer o'u cyntun, gan wrando ar Anytos, a'm lleddwch yn hawdd â dyrnod. Yna chwi gysgech ymlaen weddill eich oes, oni ofalai Duw amdanoch ac anfon rhywun arall ar eich gwarthaf. Gellwch amgyffred oddi wrth hyn mai rhyw rodd, yn wir, wyfi gan Dduw i'r ddinas: canys nid yn ôl dull dynion ydyw fy mod i yn esgeulus am fy mhethau fy hun ac yn gadael fy eiddo ofal ers cynifer blwyddyn bellach, ac yn ymwneuthur hyd â'ch pethau chwi, gan ddynesu at bob dyn fel tad neu frawd hynaf, a cheisio'i berswadio i ofalu am