Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bore drannoeth ef a aeth mewn cerbyd i weled maes y gad am ei fod yn rhy wael i farchogaeth. Er bod cysuro'r clwyfedigion yn waith da yn ddiau, eto y mae'r rhan fwyaf yn beio Napoleon am wneud hynny ar fore pan oedd pob munud o amser mor werthfawr iddo; ac yn ei feio'n enwedig am na ddanfonasai fo ran o'i fyddin dan Grouchy i ymlid y Prwsiaid yn gyntaf dim yn y bore; a rhai yn ei feio am ddanfon Grouchy o gwbl yn lle danfon cadlywydd iau a bywiocach. Y mae'n sicr na buasai fo, er gwaethaf ei afiechyd, ddim mor ymarhous pe gwybuasai fo fod y Prwsiaid, yn lle encilio'n anhrefnus tua'r de-ddwyrain i Namur, yn encilio'n weddol drefnus tua'r gogledd-ddwyrain i Wavre, a bod corfflu newydd o Brwsiaid o dan Bülow wedi ymuno â hwynt ar y ffordd. Gan fod y rhan fwyaf o'r Ellmyn a oedd ym myddin y Prwsiaid wedi ffoi yn ystod y nos tua Namur, fe dybiodd Napoleon mai tuag yno yr aethai'r holl fyddin. Yr oedd hi'n brynhawn yr eilfed dydd ar bymtheg pan gafodd Grouchy orchymyn i gymryd 34,000 o wŷr i ymlid ac i wylio'r Prwsiaid gorchfygedig, ac yr oedd hi'n brynhawn pan gychwynnodd Napoleon i Quatre Bras. Yr oedd hi'n ddeg o'r gloch y nos pan wybu Grouchy fod rhan o'r fyddin Brwsiaidd wedi myned tua Wavre, ond pe gwybuasai fo'r cwbl, yr oedd yr