Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai anodd yw byw ynddi ar hyd y flwyddyn. Sut y gellir disgwyl it ddotio ar yr eira gwyn, ac yntau'n claddu dy ymborth allan o'th olwg? Dos ymaith, gan hynny, ym mis Medi, a dychwel ym mis Mai Tyred yma megis aderyn dieithr o wlad bell, oblegid rhai o bell a berchir yng Nghymru, ac nid rhai o agos. Pe deuit yma yng nghymdeithas y cogau a'r gwenoliaid, ac adar pendefigaidd felly, fe gedwid digon o dwrf yn dy gylch. Rhaid it addef mai aderyn eithaf diaddurn a diawen ydwyt (na ddigia wrthyf am ddweud y caswir), ond er hynny, pe deuit yma yn ymwelydd blynyddol, caut groeso mawr. Gofynnid yn bryderus ym mis Mai, "A welsoch chwi lwyd-y-gwrych?" neu ynteu dywedid, Cyn sicred â'm bod yn sefyll ar y fan yma, dyna lais llwyr-y-gwrych "; a phan fyddit wedi cychwyn ar dy hynt i fro gynhesach, dywedai llawer un, "Wel! wel! dyna lwyd-y-gwrych wedi mynd."

ALLAN O'R Faner, IONAWR 19, 1881.

Y mae'n ymddangos bod Mr. Darlington wedi arfer meddwl bod y Cymry mor ddiolchgar i'r Saeson am eu darostwng, ac am eu cadw o hyd mewn caethiwed, fel y mae ei ysbryd Seisnig yn ymgynhyrfu ynddo wrth weled bod eto "glymblaid