Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fohamediaid, ac yn baganiaid, a hynny cyn dydd y farn, fod Duw yn bod, a'i fod yn Dduw cyfiawn, am ei fod "yn gwneuthur cyfiawnder yn y ddaear."

Yr eiddoch, &c.,
E

ALLAN O'R Faner, CHWEFROR 18, 1885.

Yn wir, y mae rhai o ddisgyblion mwyaf eithafol Rousseau yn haeru mai trafferth ofer yw dysgu unrhyw iaith; a gwaeth nag ofer, am fod iaith yn rhoi cyfleustra i ddynion i wag-siarad ac ymddadlau, i enllibio ac i absennu, i draethu celwydd a gwen— iaith, ac i dyngu a rhegi. Yr un ffunud fe all ambell Gymro, er mwyn cyfiawnhau ei anghysondeb ei hun, neu ynteu er mwyn difyrru pobl eraill, ddwyn rhyw ddadleuon yn erbyn arfer moddion i gadw iaith ei wlad yn fyw; er hynny, nid ydyw'r cyfryw ddadleuon yn mennu dim ar y Cymry sy'n ymwrando â greddfau a chydwybod y genedl. Cydwybod y genedl, meddaf; canys y mae'r undod a berthyn i genedl yn ei gwneud hithau, fel y person unigol, yn berchen cydwybod; ac y mae'r gydwybod genhedlig hon yn sisial wrth genedl y Cymry, fel wrth bob cenedl arall, nad oes ganddi ddim mwy