fradychu dim o'i argyhoeddiadau ei hun. [1] Ni chafodd ei enwad erioed mo'i ffyddlonach, a'r cwbl a geisiodd ef ganddi ar ei ran ei hun oedd y fraint o gael ei gwasanaethu.
Yr oedd y gacynen ar waith hefyd ym Mreuddwyd Pabydd fel arfer. Ei ffordd effeithiol o yrru ei gyd-genedl i chwilio seiliau ei bywyd a'i phroffes oedd trwy beri iddi weld y seiliau hynny wyneb-i- waered am foment fach. "Fel y gallwyf ryw fodd yrru eiddigedd . . . Gwelai fod grym yn nadl y Tad Morgan ar falltod y sectau, ac unigoliaeth anorganaidd yr oes. Pwy a wad hynny heddiw, ac oni wna'r enwadau ateb yr her, ar bwy y bydd y bai os daw'r 'breuddwyd' i ben?
Nid bob amser y sylweddolir bod Emrys ap Iwan yn ysgrifennwr toreithiog. Fe fyddai ei holl weithiau yn ddigon i lenwi ugain o gyfrolau o faintioli hon, a dweud y lleiaf. Cafwyd dwy gyfrol o'i Homiliau eisoes. Diweddir y cofiant gan restr chwe thudalen o'i "Lythyrau i'r Wasg, ei Ysgrifau,
- ↑ Y mae diwylliant Cymraeg eang yn ddisgyblaeth mewn goddefgarwch crefyddol, oblegid y mae cynifer o bethau gorau ein llenyddiaeth yn glwm annatadwy wrth fwy nag un ffurf o Gristnogaeth. Y mae casineb at unrhyw un o'r ffurfiau hynny yn ein rhwystro rhag gweld gwerth ein cynhysgaeth genedlaethol yn ei chyfanrwydd, ac oblegid hynny yn peri i ni fod yn llai o Gymry. Gwyddai Emrys ap Iwan hyn yn dda.