Prawfddarllenwyd y dudalen hon
i fod yn ddyn y bobl, baidd eto fod bamffledwr, a chyhoedda hynny'n uchel, uchel. Ysgrifenna, gwna bamffled ar ôl pamffled, tra na phallo iti ddefnydd ac achos. Dring i bennau tai, pregetha'r Efengyl i'r cenhedloedd, a gwrandewir arnat—os gwelir di cael dy erlid. Canys y mae'n rhaid wrth y cymorth hwn, ac ni wnei ddim heb Meistr de Broë. Arnat ti y mae llefaru, ac arno yntau y mae dangos trwy ei erlyniad wirionedd dy eiriau. Wrth ddeall a chefnogi'ch gilydd, yn ôl dull Socrat ac Anytos, gellwch droi'r byd.
Allan o'r Faner, Awst 23, 1882.
D. MYRDDIN LLOYD