Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon


I

BULLY, TAFFY, A PADDY

FONEDDIGION,

John Bully, Ywain Taffi (alias John Jones), a Daniel Paddy ydyw enwau llawn y tri phenteulu yr wyf ar fedr sôn amdanynt. Bygylu teuluoedd eraill ydyw gwaith pennaf y penteulu blaenaf; ac oblegid hynny y gelwir ef yn Bully; hynny ydyw, Bygylwr. Ond gwelodd Mr. Bully yn lled fuan mai gwaith costus oedd ceisio darostwng Taffi o dan ei draed trwy fygyliaeth; ac am hynny, penderfynodd gyrraedd ei amcan trwy ffordd ratach. Wedi deall ohono fod Ywain yn bur ddantfelys, dechreuodd ei borthi â chyflaeth; ac oherwydd hynny, fe'i gelwir yn Taffi hyd y dydd hwn. Bernir mai er mwyn cael eu gwala o gyflaeth y mae cynifer o blant ieuangaf Taffi yn cywain i fryn Everton. Beth bynnag am hynny, y mae yn sicr gennyf y pery Taffi, druan! yn gwbl ddiddig cyhyd ag y caffo dipyn o gyflaeth, pa beth bynnag arall a fyddo yn ôl.

Gŵyr pawb mai â chloron, neu aeron y ddaear, y bydd Mr. Bully yn bwydo ei was, Paddy; a chan