II
PYNCIAU I BLANT
(PUM SWLLT O WOBR)
FONEDDIGION,
Gan y bydd y nos ormesol, bellach, yn ymlid plant da yn gynharach—gynharach o'r heolydd i'r aelwydydd, nid anfuddiol fyddai rhoi pwnc dadleuol iddynt i ysgrifennu arno. Cânt ddewis yr un a fynnont o'r pynciau isod, a chânt gymryd yr ochr a fynnont wrth ymdrin ag unrhyw un ohonynt, oddieithr y blaenaf. Rhag i neb o'r plant ddweud na ŵyr pa fodd i ysgrifennu arnynt, mi a roddaf gyfarwyddyd bras iddynt o dan bob pwnc.
1.—Pa un ai mantais ai anfantais i Gymry yw'r Gymraeg?
Wrth ysgrifennu ar y pwnc hwn addefed y cystadleuydd yn gyntaf oll fod cariad dyn at iaith ei dadau yn un o'r "teimladau mwyaf cysegredig," ond profed yn ddi-oed ar ôl gwneud hynny fod yn weddaidd iddo fygu'r teimladau hynny, er dyfned ydynt, er mwyn "llesoldeb bydol." Dangosed y gwnelai Cymro yn gall pe newidiai ei iaith, ei grefydd, a'i Dduw hefyd, am dair punt yn yr wythnos yn lle dwy.