Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwg y gwelodd y Daily Telegraph yn dda ei roi arnom, gan fod hynny'n beth mor ddifyr gennym; ond nid oes gennym hawl i droi ar ein meistri gan ddywedyd, "Tinddu ddu ebe'r frân wrth yr wylan."

Dyma beth arall hefyd y gall y cystadleuydd ei haeru heb ofni cael ei wrthddywedyd gan y rhai na wyddant nemor am y Cyfandir, sef, "na lwyddodd un genedl i siarad dwy iaith am dymor hir." Y mae'r byd mor fawr, a phob rhan ohono, oddieithr Lloegr, mor ddieithr i'r rhan fwyaf o Gymry fel y mae'n ddiogel i Gymro cartrefol ddweud y peth a fynno amdano ac am ei drigolion.

Heblaw hynny, dyweded y cystadlydd mai cywilyddus o beth ydyw na ŵyr llawer o reithwyr a thystion Cymreig fawr fwy am iaith y Barwn Bramwell nag a ŵyr y Barwn Bramwell am eu hiaith hwythau. Yn sicr dylai'r Methodistiaid neu ryw gyfundeb cymwynasgar arall ddyfeisio rhyw gynllun i addysgu'r Cymry hyn i ddeall iaith y Barwn Bramwell a'i osgordd. Y mae anwybodaeth y barnwyr a'r dadleuwyr o'r iaith Gymraeg yn ennyn rhyw barchedigaeth dwfn yn enaid pob Cymro "diragfarn," ond gwrid a gyfyd i'w wyneb pan welo dyst neu garcharor heb fedru nemor o Saesneg. Dylid edrych ar Sais uniaith fel prodigy; ond dylid edrych ar Gymro uniaith yn benbwl. Traethed y