Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hyn o beth yn deip neu yn ddangosiad teg o ryw naw o bob deg o'r genedl sy'n honni mai hyhi yw'r predominant partner. Gwybydd, ddarllenydd, mai brwydr rhwng y Celtiaid a'r Teutoniaid oedd y frwydr etholiadol a ymladdwyd y mis o'r blaen; ac ni all y Celtiaid byth mwy ddisgwyl am gymorth effeithiol gan y Saeson tuag at ei hennill hi. Pa beth gan hynny a wnânt er mwyn dwyn barn i fuddugoliaeth? Ymuno â'i gilydd yng Nghymru, Iwerddon, ac Ucheldiroedd yr Alban, i ffurfio Cynghrair Celtig, a chytuno i ymladd yn y modd mwyaf Parnelaidd am yr un a'r unrhyw beth, a hwnnw yn gyfryw beth ag a gynhyrfo wladgarwch y cenhedloedd darostyngedig hyd y gwaelodion. A pha beth amgen a all hynny fod na'r hawl ddwyfol i'w llywodraethu eu hunain fel y gwelont hwy yn dda? Neu, yng ngeiriau Freeman yr hanesydd: "The right of every nation to govern, or, if so be, to misgovern itself." Gan fod y Teutoniaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Celtiaid, cyhoedded y Celtiaid ryfel yn eu herbyn hwythau; ac er ein bod yn wannach o lawer na'r Saeson, yr ydym ynghyd yn ddigon cryfion i orchfygu. Ni faidd Lloegr ddangos ei holl rym yn erbyn y gwledydd agosaf ati, rhag ofn lleihau ei dylanwad yn ei thiriogaethau pell. Fe fyddai'n well ganddi ildio llawer iawn na dangos