Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhoi llawer, y maent yn gofyn mwy. Llusgant yr eglwysi i ddyled ddianghenraid gan na bydd gan y cyffredin na llais na llaw yn yr hyn a wneir ganddynt y mae ysbryd gweithio ac ysbryd cyfrannu yn cael ei lethu. Pan fo llawer o gyfoethogion yn yr un eglwys y maent yn hollol ddiniwed, gan fod y naill yn disodli'r llall. Nid wyf yn meddwl eich bod chwi, Mr. Gol., wrth draethu ar ddirywiad yr eglwysi wedi gosod digon o bwys ar ddylanwad yr aelodau hynny a gamenwir yn bobl fawr. Y mae'r eglwysi, fel y gwyddoch, wedi dyfod i weled mai'r unig ffordd i gadw'r bobl hyn gyda'r Methodistiaid ydyw trwy eu gwneuthur yn flaenoriaid—nid yn ddiaconiaid, cofiwch—ond yn flaenoriaid yn ystyr lythrennol y gair. Wrth reswm, y mae diaconiaid yn bod, ond urdd o bobl gyffredin ydyw honno a ordeiniwyd i wasanaethu'r blaenoriaid. Nid wyf yn awr yn bwriadu cyfrif grasau na mesur cyraeddiadau'r blaenoriaid hyn. Nid oes neb call mor ynfyd â disgwyl i ŵr mawr ddiwyno ei glos brethyn trwy ddringo'r rhiwiau serth hynny y sonia'r caniedydd amdanynt; ond y mae'r cyffredin, druain werin, yn meddwl y dylent wneud hynny, ac y mae'r meddwl yma'n peri poen nid bychan i bobl respectable. Ni faidd y diaconiaid argymell ond yn unig yr ychydig rinweddau hynny y tybir bod y gŵr mawr yn eu