Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond cyn y gallaf eu perswadio i wneud hynny, rhaid i mi beri iddynt gredu mai o Ffrainc y mae'r ddefod yn dyfod."

Dyna fel y sieryd y diafol. Fel beirniad teg, ni fynnwn ddweud gair yn amharchus am alluoedd y diafol, ond nid ofnwn ddweud, ie, yng ngŵydd y prif farnwr Cockburn, ei fod yn greadur mor gelwyddog â John Jones, o Lan——; am hynny, cred di fi, ddarllenydd. Yr wyf i yn adnabod y Saeson yn well na llawer; ac yr wyf wedi dyfod i weled mai'r ffordd orau i ryngu bodd y Sais ydyw trwy beidio â dangos yn rhy amlwg dy fod yn malio am ei anfodd. Ymostwng i Sais ac ef a'th fathra; gosod dy hun ar yr un tir ag ef, ef a'th barcha. A ydych chwi’n meddwl, Gymry, eich bod yn fwy eich parch gan y Saeson oherwydd eich bod yn ymboeni i ymdebygu iddynt, ac i fyw yn gwbl iddynt? Nid ydych felly yn sicr, y maent yn eich diystyru o eigion eu calon.

A welwyd erioed genedl mor blentynnaidd a gwasaidd â'r Cymry presennol? Dangosant eu gwaseidd-dra yn y pethau lleiaf yn gystal ag yn y pethau mwyaf. Clywir am bethau fel hyn weithiau. Gofynna'r lletywr i'r tafarnwr, "I say, man, beth yw enw'r dref acw?" "Llynllychar, syr."

Llynllychar, syr." "Pa beth?" Llynllychar, syr." A ydych chwi'n galw peth fel yna'n enw?" "Clywais ddweud nad oes yn yr enw