RHAGYMADRODD
Cyn myned i Ffrainc am y tro cyntaf bu Emrys ap Iwan am dair blynedd yn gweithio yn yr un alwedigaeth â'i dad, sef fel garddwr ym Modelwyddan. Er yr holl newid byd a ddilynodd hynny, y digwyddiad mawr oedd troi ohono'i gamre i gyfeiriad gwlad ei hen nain. Ffrainc bellach fu ei ail famwlad. Gwinllannwr o Ffrancwr a wnaeth yr argraff ddyfnaf ar feddwl y cynarddwr ifanc. Paul-Louis Courier oedd ei enw, ac edrychir arno, ynghyd â'i gyfoeswyr, Béranger a Stendhal, fel llenorion y bobl, mewn ystyr arbennig iawn. "Yr hwn yn unig yn dy wlad sy'n foddlon i fod yn ddyn y bobl," medd Courier ei hun, yn ôl cymreigiad Emrys o'i eiriau. Fe elwir y tri a enwyd, gan feirniad amlwg o Ffrancwr o'n hoes ni, sef Thibaudet, yn llenorion y gwir Chwyldro, sef y Chwyldro Ffrengig parhaol. Fe ddengys yr un beirniad[1] fod yr hen winwydden genedlaethol, tua diwedd y ddeunawfed ganrif, yn dwyn ffrwyth newydd i aeddfedrwydd trwy wres y Chwyldro, sef y teip newydd o Ffrancwr a nodweddai'r
- ↑ Gweler ei Histoire de la littérature française de 1789 à nos jours (Stock, 1936), tud. 88 ac ymlaen.