Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymell hwynt i arfer pob moddion i'w gadw'n fyw. Rhaid yw i sect gael rhywbeth a gamenwir yn llenoriaeth cyn bod ganddi gymaint ag un llenor; a hyn, meddaf eto, ydyw gwreiddyn y drwg.

Er bod gan y sectau fwy o wŷr dysgedig yn awr nag a fu ganddynt o'r blaen er dyddiau tadau cyntaf y Methodistiaid, eto ychydig iawn iawn sy ganddynt o ddynion digon diwylliedig i allu sgrifennu Cymraeg yn weddol goeth. Gan fod rhai ohonynt yn B.A.-od, yn M.A.-od, ac yn D.D.-od, rhaid credu y buont mewn rhyw fangor neu'i gilydd, yn astudio deddfau rhesymeg, os na buont yn astudio deddfau'r Gymraeg; ond ni feddyliai neb mo hynny wrth chwilio a chwalu eu brawddegau; ac oherwydd hyn, y mae'n anodd i ambell lenor gwladaidd beidio â gofyn i ba beth y mae addysg athrofaol yn dda, os nad yw hi'n coethi'r meddwl. Mi a adwaen ychydig ohonynt a allai'n wir fyned yn burion trwy arholiad mewn gramadeg, na allent er hynny, naill ai o eisiau dawn naturiol, neu ynteu o eisiau cynefindra â'r sgrifeniadau gorau, ddim ysgrifennu llythyr Cymraeg yn gystal ag y gall llawer tramorwr. Ond nid am hyn yn gymaint yr wyf i'n beio arnynt, ond am eu hyfdra yn cyhoeddi eu Cymraeg gwael cyn ymdrafferthu i ddysgu Cymraeg gwell. Os na fynnant drugarhau