llenyddiaeth glasurol, yr ydys yn ei feddwl yn y cymdeithasau hynny wrth lenyddiaeth bur, ond llyfrau diddrwg-didda, goruwchanianol, y gellwch yn ddiogel eu rhoddi'n anrheg i enethod pymtheg oed. A llefaru'n ddiamwys, nid oes a wnelo llenyddiaeth bur fwy â moesoldeb nag sydd a wnelo pure mathematics ag ef. Yng ngolwg y llenor, llenyddiaeth gain yn unig sy'n llenoriaeth bur. Nid yw'n wiw ganddo fo ddarllen llyfr oblegid ei santeiddrwydd yn unig, os na bydd ynddo hefyd brydferthwch santeiddrwydd. Ofer cynnig iddo bethau gwir a phethau cyfiawn os na byddant hefyd yn bethau hawddgar a chanmoladwy.
Pa beth bynnag a ddyweder am nifer a gwerth y llyfrau a gyhoeddwyd yn y cyfnod Ymneilltuol, rhaid addef bod ynddo lai o lyfrau clasurol nag sydd ymhob un o'r ddau gyfnod arall. Nid yw cynhyrchion gorau'r cyfnod hwn mor goeth â chynhyrchion y Cyfnod Eglwysyddol, nac mor brydferth â chynhyrchion y Cyfnod Catholig. Yn y ddau gyfnod o'r blaen, dynion yn medru sgrifennu oedd yn gyffredin yn mynnu sgrifennu, ond yn y cyfnod hwn y mae'r rhan fwyaf yn barnu mai coll amser yw dysgu Cymraeg cyn dechrau sgrifennu. Er hyn oll y maent yn derbyn eu gwobr, canys y mae eu cariad at eu cyfundeb yn cuddio lliaws o