chan dybied ei fod yn rhy wan i gloddio, fo dry i gardota. Y mae'n gywilyddus ganddo osod ar y bwrdd ei gawl ei hun, ac am hynny y mae o'n cynnig i'w westeion botes Seisnig wedi ei ail dwymo ar dân Cymreig. Y mae'r Mabinogion hynaf, y mae'n wir, mor wreiddiol â chynhyrchion unrhyw genedl; ond i'r bobl gyffredin, ac nid i lenorion y rhaid diolch am hynny. Y nhwy o genhedlaeth i genhedlaeth a luniodd y chwedlau hyn, ac a'u lliwiodd hefyd. Ni wnaeth y gwŷr llên, sef y mynachod, fawr amgen na'u hysgrifennu. Y bobl, yr un ffunud, ac nid cerddorion wrth broffes, a wnaeth ein hen alawon; a chynulleidfaoedd Cymru a wnaeth oreuon ein tonau cysegredig yn gyfryw rai ag ydynt. Mae gwerin Cymru wedi bod erioed yn fwy cynhyrchiol ymhob peth na'i dysgawdwyr.
Dywedais fod gennym ychydig o awduron gwreiddiol, ac ohonynt y mae dau os nad tri yn perthyn i'r cyfnod yr wyf yn bwriadu sylwi arno oddi yma ymlaen, sef Elis Wynn, a Morgan Llwyd; ac y mae'r trydydd hefyd, sef Theophilus Evans, mor wreiddiol ag y dichon i hanesydd fod; ie, yn rhy wreiddiol i fod yn hanesydd cywir. Y mae'n wir y dywedir am
ELIS WYNN
nad yw hyd yn oed ei Weledigaethau, er gwyched