aeth angau ac i gelloedd uffern buasid yn disgwyl iddo fod yn llai cellweirus o lawer. Y mae'n wir ei fod yn ceisio bod yn dduwiolaidd yno, ond ceisio y mae o, a methu bob rhyw bum munud. Y mae mor drwm ei wep a chrynedig ei leferydd â goruchwyliwr angladdau, a chwi ellwch ei weled yn awr ac eilwaith yn codi ei gadach at ei wyneb, eithr nid i sychu ymaith ddeigryn, ond i guddio gwên. Nid yw ei Lucifer (= Lleufer) nac yn urddasol fel Satan Milton, nac yn ddirmygol fel Mephistophel Goethe. Hen lencyn o Gymro nwyd- wyllt, ffwdanllyd, ydyw o, eithr crefyddol ddigon yn y bôn: Weslead hynaws newydd gael cwymp oddi wrth ras, ac un y mae'n ddrwg gennych yn eich calon fod Pabyddion, Mohamediaid, Cromweliaid, a Chwaceriaid, a giwed aflonydd eraill, yn peri cymaint o boen i'w enaid cyfiawn yn ei deyrnas ei hun. Ar air, y Bardd Cwsg ei hun yw Lucifer yn y cyfryw dymer y buasai'r bardd hwnnw ynddi pe buasai o wedi ei osod i gadw heddwch rhwng y pleidiau crefyddol yn uffern. Yn wir, Bardd Cwsg yn ei wahanol dymherau ac mewn gwahanol gyflyrau sy'n llefaru trwy enau pob person sydd yn y llyfr. Os yw hyn yn fai arno, y mae'n fai a berthyn i Milton hefyd, canys fe ŵyr pawb nad oedd dim o'r dramodydd ynddo yntau chwaith.