Onid yw pob brawddeg, gyda'i haml aelodau, yn peri ichwi feddwl am ddinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun; ac onid yw'r awdur yn peri ichwi feddwl am dywysog urddasol yn ymdaith yn amlder ei rym? Dyn diwylliedig a mawr ei amgyffred a fedrai lunio brawddegau o fath y rhai a ddyfynnwyd. Haws fyddai i ddyn cyffredin drefnu byddin fawr mewn brwydr na threfnu ymadroddion yn null meistrolaidd Edward James. Pe na buasai ofn Calfiniaid Dyffryn Clwyd gerbron fy llygaid, mi a ddywedaswn ddarfod ethol Edward James i fod yn rhywbeth amgenach na chyfieithydd. Er bod yr Homilïau yn haeddu eu cyfieithu, ac yn haeddu eu darllen yn y dyddiau hyn am fwy nag un rheswm, eto y mae'n anodd gennyf feddwl na allasai'r cyfieithydd, trwy rin y ddawn a'r ddysg oedd ganddo, wneuthur rhyw waith llenorol a fuasai'n rhagorach na'r Homilïau. Yn ei gyfieithiad o'r rhain nid yw'r arddull mor fawreddig ag yn ei Ragymadrodd iddynt; ond y mae hynny'n bod o achos nad oedd arddull Cranmer a Latimer a Jewel mor fawreddig â'i arddull naturiol ef. Ni buasai gan awduron yr Homilïau ddim achos i gwyno bod y cyfieithiad Cymraeg yn anghywir, ac nid oes gan ddarllenwyr Cymreig achos i gwyno ei fod yn anghymreigaidd; canys nid oes gennym
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/58
Gwedd