Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr cymhwysach i'ch oes eich hun. Y mae llawer pregethwr wedi ei ddifetha ei hun cyn ei farw trwy ymroi i foddhau'r hen boblach oedd yn myned ymaith, ac esgeuluso ymbaratoi ar gyfer y genhedlaeth oedd yn dyfod ar eu hôl hwynt. Cofiwch y daw'r Gymraeg ar fyrder i'r ysgolion cyffredin, ac y mae hynny'n cynnwys y bydd Cymraeg coeth ac arddull da yn fwy eu bri gan y genhedlaeth nesaf. A pha beth yn y diwedd ydyw iaith goeth amgen nag iaith heb ynddi ddim geiriau ofer ac anghymwys, eithr rhai eglur hyd at fod yn loyw, a manwl hyd at fod yn finiog. "Geiriau y doethion sydd megis symbylau "; ac y mae pregeth y byddo'i ffurf yn gyfaddas i'w defnydd fel afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."

ALLAN O'R Geninen, EBRILL 1893.