Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gadw rhag llawer crebachdod. Ei ddelfryd i'w enwad oedd ei weld yn ddigon mawr a mawrfrydig i fod deilwng eglwys y Cymry (y genedl fel yr Eglwys o osodiad dwyfol), ac felly yn gangen urddasolach a ffrwythlonach o Eglwys Crist.

Lle ni ddangosir yn amgen, codwyd cynnwys y gyfrol hon o lawysgrifau Emrys ap Iwan ei hun. Talfyrrwyd mewn rhai mannau, ond nid oes dim wedi ei newid, ag eithrio'r orgraff a rhai manion iaith, fel yr eglurwyd yn rhagymadrodd y gyfrol gyntaf.

Diolchir i Mr. G. J. Williams, M.A., Caerdydd, am fwrw golwg dros y proflenni ac awgrymu gwelliannau. Diolchir yn awr unwaith eto, ar ddiwedd y gyfres hon o waith Emrys ap Iwan, i Mr. Prosser Rhys ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am bob gofal chyfarwyddyd. Dymunaf ddiolch hefyd i'r Athro Bleddyn Jones—Roberts, M.A., B.D., am ei barodrwydd i sgrifennu rhagair i ysgrif Emrys ar Gyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salman.

Gorffennaf, 1940.

D. MYRDDIN LLOYD.[1]

  1. Bu farw Emrys ap Iwan ym 1906, gan hynny mae ei holl waith ymhell allan o hawlfraint. Yn wir, gan fod deddfau hawlfraint Cymru a Lloegr yn perthyn i lyfrau yn unig, ac nid erthyglau mewn papurau newyddion a chylchgronau, hyd ddechrau'r 20G ni chafodd y mwyafrif o'r erthyglau sydd yn y cyfrolau byth eu hamddiffyn gan hawlfraint.
    Gan fu farw David Myrddin Lloyd, awdur y rhagymadroddion i'r tair cyfrol yng Nghyfres "Erthyglau Emrys ap Iwan", ym 1981, bydd ei weithiau ef, gan gynnwys y rhagymadroddion hyn, o dan hawlfraint hyd 2052.
    Cyhoeddwyd y gyfrolau dros 80 mlynedd yn ôl. Daeth y cyhoeddwr, "Y Clwb Llyfrau Cymreig", i ben ei daith dros 80 mlynedd yn ôl, gan hynny mae pob dim ond yr ychydig tudalennau o ragymadrodd yn sicr yn y parth cyhoeddus. Bernir mae "defnydd teg" yw dyfynnu yr ychydig dudalennau o ragymadrodd gyda gweddill corff y llyfrau sydd bellach allan o hawlfraint.