Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd manwl o'r Beibl yn y dyddiau hyn." Yn 1899 fe gyhoeddodd y Traethodydd ysgrif hir ac ysgolheigaidd "Dr. Fritz Hommel a'r Uwchfeirniaid," ac felly ymlaen. Nodaf y pethau hyn o blith llawer yn unig i rybuddio'r darllenydd y geill feddwl yn anghywir am gyflwr diwinyddiaeth Cymru yn niwedd y ganrif ddiwethaf os cred fod pawb yn haeddu'r cerydd a rydd Emrys ap Iwan. Hefyd dylid dweud nad ar ochr Emrys oedd y doniau i gyd. Meddyliwn wrth ddarllen yr ysgrif, am ddwy erthygl yn pleidio'n wahanol a gyhoeddwyd yn y Drysorfa yn 1898 gan Cynddylan Jones, yntau hefyd yn eithaf pencampwr.

Hyd y gwelaf i, seilia Emrys ap Iwan y rhan fwyaf o'r ysgrif ar lyfr enwog a hynod ddiddorol gan W. Robertson Smith, o'r enw The Old Testament in the Jewish Church. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1881, ond yr ail argraffiad, yn 1892, sydd fwyaf adnabyddus ar silffoedd gweinidogion a siopau llyfrau ail-law. Ac y mae'r llyfr wedi dal ei dir yn rhyfedd. Ar lawer pwnc ni ddaeth dim i'w ddisodli, a chan hynny gellir dweud hefyd fod y rhan fwyaf o syniadau ysgrif Emrys yn cynrychioli syniadau heddiw. Fe ddeil rhan fwyaf o'r gosodiadau ar ffurfio Canon yr Hen Destament, ac â hyn yr ymwna'r erthygl mewn gwirionedd. Ond y dull diweddaraf o drafod y Canon yw gwneud mwy o sylw o'r cyfieithiadau cynnar i ieithoedd cymdogion yr