Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iadau'r tadau, a'u diofalwch am gadw gorchmynion trymaf cyfraith Crist, sydd wedi gyrru cynifer yn anffyddwyr mewn gwledydd Cristnogol. Gan y bydd addysg yng Nghymru cyn hir agos mor uchel a chyffredinol ag yr ydoedd hi yn yr Almaen ryw hanner can mlynedd yn ôl, y mae'n ofynnol i bawb sydd yn addysgu eraill, pa un bynnag ai o'r pulpud ai mewn dosbarth, iawn gyfrannu gair y gwirionedd, a rhoi y cyfryw eglurhad arno ag a fyddo yn ei ganmol ei hun wrth bob cydwybod dynion. Canys os ceisiwn barchu. gair Duw trwy amharchu rheswm a chydwybod dynion, yna ni gollwn ein haelodau a'n gwrandawyr mwyaf goleuedig, fel y collwyd hwy mewn llawer gwlad arall. Fe fuasai Cristnogaeth yn llawer uwch ei phen yn y byd nag ydyw hi heddiw pe derbyniasai Cristnogion bob gwirionedd newydd â chalon hawddgar a da, yn lle'i dderbyn megis o'u hanfodd ar ôl hir ymladd yn ei erbyn. Ymladd a wnaethant yn erbyn darganfyddiadau seryddiaeth a darganfyddiadau daeareg; ac ymladd y mae llawer ohonynt heddiw eto yn erbyn darganfyddiadau anianeg a darganfyddiadau hynafiaeth; ac ymladd ond odid a wnânt hyd oni chredant mai trwy natur ei hun y mae Duw yn datguddio pethau natur, ac mai trwy yr Ysbryd ei hun y mae o'n datguddio pethau'r ysbryd.

Er bod y dysgedigion pennaf mewn rhai pethau yn