feddylied neb fy mod wrth amddiffyn Protestaniaeth y Cyfandir, yn amddiffyn Anglicaniaeth a Phuritaniaeth y wlad hon; canys nid yw'r rhain ddim amgen na Phabyddiaeth Lloegr wedi ei chymysgu â mwy neu lai o Brotestaniaeth y Cyfandir; a chan eu bod yn gorffwys mewn rhan ar reswm ac mewn rhan ar draddodiad, ni ddichon iddynt sefyll yn hir. Am hynny yr ydys eisoes yn gweled bod y rhan fwyaf o'r Anglicaniaid yn ymdroi'n Babyddion, a bod y rhan fwyaf o'r Puritaniaid yn ymdroi'n Brotestaniaid. Hynny o Brotestaniaeth a ddaeth i'r wlad hon, o'r Cyfandir y daeth o, a dylem fod yn hytrach yn llawen nag yn drist wrth weled mwy ohoni'n dyfod drosodd yn y dyddiau hyn nag a ddaeth yn nyddiau'r Ffrancwr Calfin, yr Yswisiad Zuinglius, a'r Allman Luther. Y Cymry a ddylai fod y bobl barotaf o bawb i groesawu Protestaniaeth bur a llwyr, canys onid yw egwyddor fawr Protestaniaeth yn gynwysedig yn gryno mewn un o'n hen ddiarhebion: "Rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar."
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/45
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ALLAN O'R Geninen, GORFFENNAF 1898.