Wedi iddynt deithio enyd
Ar lif ddwfr y cleidir coch;
Eu llwybr oedd trwy dir anhyfryd,
A'u garw fyd fel gyr o foch!
Cas anneddle Legree ffyrnig,
Gyrhaeddasant y prydnawn;
Rhyw hen balas adfeiliedig,
Eang oedd, a chandryll iawn.
Aed â Thom at ryw furddynod,
Lle lletyai 'r caethion trist;
Cytiau moelion a digysgod,"
Heb na mainc, na bwrdd, na chist;
Yno ceisiai yn bryderus
Silff i'w Feibl ar ryw fan ddellt;
Ond nid oedd trwy'r bwth truenus,
Ddim i'w gael ond cudyn gwellt.
Yn y fangre felldigedig.
Caled oedd y meistriaid gwaith;
Gan eu tasgu 'n ddirmygedig,
A gwneyd hyd eu dydd yn faith;
Tom, wrth wel'd rhai tan y gorthrwm,
Bron a syrthio'n llesg eu hun,
Daflai at eu dognau cotwm,
Weithiau, beth o'i ddogn ei hun.
Ac yn y llety llwyd,
Dyddanai'r gorthrymedig,
Wrth arlwy 'r tamaid bwyd,"
Neu orwedd yn lluddedig;
Gan son am gariad Crist,
At Negro tlawd, digysur;
A'i ddyoddefiadau trist
Er codi pen pechadur.