RHAGYMADRODD
PETHAU a ddetholwyd o weithiau'r Parchedig Ben Davies yw cynnwys y gyfrol hon. Amcanai ef yn ei flynyddoedd olaf gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth ac ysgrifau defosiwn, ac yr oedd wrthi'n dewis a diwygio pan ddaeth y diwedd sydyn. Gan na chafodd orffen y gwaith hwnnw fel y bwriadai cymerwyd rhyddid i gywiro ychydig ar yr orgraff a symud ambell odl a mân wallau iaith, lle'r oedd hynny'n bosibl heb newid y syniad a'r arddull. Ysgrifennwyd yr Hunangofiant ar wahanol adegau, a rhannau ohono fel y dywed yr awdur "cyn bod sôn am 'orgraff newydd' na gloywi'r Gymraeg'". Cysonwyd ychydig yma hefyd am y gwyddom y dymunai ef hynny. Gadawodd ar ei ôl stôr helaeth mewn llawysgrif o ganeuon crefyddol ac emynau, pregethau ac ysgrifau, a dewiswyd ohonynt er ceisio dangos ei brif nodweddion fel llenor a phregethwr.
Ni roddwyd i mewn ddim o'i farddoniaeth Eisteddfodol. Y mae'r farn a draetha yn yr Hunangofiant am honno'n cyfreithloni ei gadael allan. Pe byddai galw arnom i ddilyn ei dyfiant fel bardd ni ellid ei hanwybyddu, wrth gwrs, a byddai'n enghraifft ddiddorol o gyfnod arbennig ar ganu yng Nghymru. Arall oedd y safonau ar y pryd, ac yn ôl y rheini dringodd i'r brig yn rhwydd. Cystadleuai a chanai yn nhymor y dwymyn Islwynaidd, a chyfnod y "Bardd Newydd". Ond yn y cyfamser newidiodd y safonau, ac yr oedd yntau'n ddigon llygatgraff i'w feirniadu ei hun yn eu golau'n ddi-falais. Nid gŵr ydoedd i suro, a phwdu, fel rhai o'i gyfoeswyr oherwydd y newid, a dengys rhai o'i delynegion yn y gyfrol hon iddo ymgartrefu'n weddol gysurus yn y dulliau diweddar o ganu, a dengys ei feirniadaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn