Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Efengyl ynghanol blodau ffansiol dychymyg, a rhyw chwarae hamddenol ag awgrymiadau braidd-gyffwrdd yn y pulpud.

Yn nhreigl y blynyddoedd cefnodd ar y "testunau barddonol", ac ymhyfrydai fwyfwy yn ymadroddion profiad Llyfr y Salmau, ac adnodau mawr cyfriniol Efengyl Ioan. Nid oedd Paul yr athronydd a'r diwinydd gymaint yn ei fyd. Troai o gwmpas pynciau fel Trugaredd a Gras, Cariad, Bywyd, Goleuni a Nerth—geiriau mawr y profiad Cristnogol, gan eu gweled nid yn gymaint yn eu cysylltiadau hanesyddol a diwinyddol, ag yn eu gwedd ymarferol.

Daeth yn boblogaidd fel pregethwr yn gynnar yn ei weinidogaeth, a bu galw mawr am dano i gymanfaoedd a chyrddau pregethu, ac i ddarlithio. Darfuasai am gyfnod yr huawdledd ysgubol a'r pregethu dramatig a chyffrous ymron erbyn hynny, a throai'r hwyl yn bereidd-dra esmwyth yng ngenau'r meistri, a daeth Ben Davies yn un o'r meistri hynny, ond nid ei mabwysiadu a wnaeth fel tric hwylus—yr oedd yn hollol naturiol—i gwmpas ei lais, ei fater, a'i bersonoliaeth. Gwelodd yn gynnar berigl parod y pregethwr poblogaidd i fod yn ddim amgen na pherfformiwr o flaen torf chud, a bu'n brwydro yn y dirgel yn ddwys a chyson â dreigiau gwenwynllyd hunanoldeb. Yn ei Ddyddlyfr am y flwyddyn 1900, ysgrifenna fel hyn:

Yr wyf wedi bod yn pregethu a theithio bron yn ddi-baid am y pump wythnos diweddaf. Fy iechyd yn well ar eu diwedd nac ar eu dechrau. Cefais gryn hwylusdod i bregethu. Nid wyf wedi gallu darllen fawr, na myfyrio fawr; yr wyf wedi ceisio gweddio yn weddol gyson, ond y mae fy ngweddiau wedi bod yn faterol iawn. Nid wyf yn gallu gweddio yn unlle fel yn fy myfyrgell, yn nghysgod fy mhulpud. Nid yw fy amcanion yr hyn a ddylent fod pan yn pregethu. Nid yw fy ymdrech yn ddigon cyson am fywyd pur. Yr wyf yn boenus o hunanol; disgwyl cael fy nghanmol ar ôl pregethu—a phregethu er mwyn cael hwyl. Rhaid wrth frwydr gyson i ymryddhau o'r pethau hyn, a gweddi feunyddiol. Dyro i mi, O Dduw, y bedydd tân.

Y mae cyffes o'r fath rhwng dyn a'i enaid ei hun yn fwy na hanner y goncwest. Ac nid gŵr i alw enwau cas yn