Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth y forwyn â mi allan i Gae Pen Twyn—cae uwchlaw'r tŷ, ac oddiyno gwelwn yr angladd, yn llinell ddu, yn ymsymud yn araf dros y caeau,—tua'r capel. Yr oedd y tŷ yn wag a thawel wedi i ni ddychwelyd.

Cofiaf fyned i'r capel, heb fod yn hir wedi hynny, a tharawyd fi yn rhyfedd gan harddwch y pulpud, a'r bordor ysgarlad dan y Beibl, a'r aml liwiau heirdd ar y paneli, fel tonnau môr y nef. Credwn fod drws cudd' yn agor dan y pulpud, ac mai ffordd honno yr oedd fy mamgu. wedi myned i'r nefoedd. Yr oedd un panel mawr yn ffrynt y pulpud, a'r paent arno yn ymddangos i mi fel dwy fflam fawr yn ymsaethu i fyny, credwn mai o uffern y doi y rhai hynny, a bod y panel hwnnw yn agor i ollwng pobl i mewn i'r trueni mawr. Yr oedd yn hawdd i mi gredu'r hyn a glywswn mai lle ofnadwy i sefyll ynddo oedd y pulpud!

Nid wyf yn meddwl i mi fod yn y capel yn rhyw aml iawn o'r tair i'r saith oed, canys yr oedd y ffordd ymhell a garw—tua milltir o gaeau corsiog, heb un math o heol, dim ond llwybr troed; a phrin hefyd oedd y dillad a'r esgidiau i blant y bwthyn yn y dyddiau hynny.

Byddai fy mam, yn fynych ar fore Sul, yn fy anfon allan o'r tŷ, tua chwarter i ddeuddeg i Gae Pen Twyn, i edrych os oedd y " cwrdd yn mysgu ".

Dyna'r gair ddefnyddid, am y bobl yn dyfod allan o'r capel. Byddwn innau yn eistedd ar y mur cerrig, ac yn gwylio'r cwrdd "yn mysgu", ac wedi gweled y fintai gyntaf yn dyfod allan i'r "bryn" o gyfeiriad y capel, rhedwn â'r newydd i'r tŷ, a rhoddai hithau'r tatws ar y tân, a byddai'r ginio'n barod erbyn y cyrhaeddai fy nhad a'm brodyr adref.

Mae gennyf gof hollol glir am danchwa Hendreforgan yn 1869. Collodd mab y "tŷ nesaf" ei fywyd yn y danchwa honno. Dafydd—brawd Mafonwy. Cymerodd y "tanad" le yn y nos. Daeth y newydd i'm mam cyn dydd, a chofiaf y cyffro, a'r galar, a'r dychryn.