Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwacter dan y llawr, a chodid un o'r planciau i fyny, a theflid y troseddwr i'r dyfnder, fel Joseph i'r pydew. Byddai carcharor y black hole yno am brynhawn, a chodid ef ar ôl i'r plant fyned allan. Ceisid difa'r amser yn y black hole drwy chwilio am y marbles oedd wedi mynd i lawr yno drwy'r tyllau yn llawr yr ysgoldy.

Ffordd arall o gosbi oedd gosod y troseddwr i sefyll ar un goes ar y ddesc! Saesneg oedd iaith wrth gwrs, ac nid oeddwn yn deall dim ohoni ond 'yes' a 'no', ac ni roddid yno'r un cymorth i'w deall ychwaith. Cofiaf yn awr rai o'r geiriau a adroddem gyda'n gilydd :—"It is a sin to steal a pin, much more to steal a greater thing" neu'r llyfr a ddarllenem "Cain was a tiller of the ground, and Abel was a keeper of sheep". Nid oedd gennyf ddim syniad pa beth a olygai'r uchod. Nid oeddwn yn tybio bod iddynt ystyr yn y byd. Nid oedd. yr amser chwarae wrth fy modd ychwaith, am fod y plant yn chwarae mor gas, a chynifer ohonynt am ymladd. Yr oedd rhyw ysbryd creulon, angharedig, yn yr ysgol hon, ac y mae'n ddirgelwch i mi heddiw. Byddai rhyfel weithiau rhwng plant "y Cwm" a phlant "y Bryn". Byddent yn cyfarfod yn ddwy fyddin â phastwyni ac â cherrig, ac weithiau clwyfid ambell un yn go gas. Ymlidient ei gilydd drwy'r coed, a'r afon, i'r tyllau a'r tai! Diau fod dylanwad y rhyfel ar y cyfandir-rhyfel "Ffrainc a Prussia" ar y plant. Yr amser dedwyddaf i mi oedd pedwar o'r gloch, pan ollyngid y plant allan o'r ysgol i fynd adref. Cerddwn adref gyda dau neu dri o blant ereill dros y relwe i ddechrau, yna dros lwybr troed, a draws y cae—dros bont bren ddi-ganllaw yn groes i afon Llynfell. Yna dros gae eilwaith ac heibio'r Ty-gwyn drwy'r buarth, yna dros y caeau a'r gweunydd, dros Gwter Jâms yna allan i gaeau'r Ddôl-gam. Melys oedd y tawelwch yno, a mwyn oedd tro i'r caeau neu i fyny'r bryn at Garreg Maen Bras. Byddai hiraeth dwys yn fy meddiannu yn yr ysgol yn aml, hiraeth am y mynydd, a'r afon loyw, am y defaid a'r ŵyn, a'm llyfrau Cymraeg.