drwsio'r lamp â hoelen pedol ceffyl. Ni wyddwn ddim fod un perygl yn y byd yn y twll bychan hwnnw. Ond, ymddengys ei fod yn ddigon mawr i chwythu'r cyfan i ddinistr, pe buaswn wedi digwydd myned i'r fan lle yr oedd nwy. Gwelwyd y peth gan Gwilym Wyn wrth ddod heibio-diffoddodd fy lamp ar unwaith, ac aeth â mi yn ôl i'r orsaf i gael case newydd.
Ni allaf fanylu yma ar lawer o helyntion bywyd y llanc oedd yn cadw'r drws, dan y ddaear, yn y dyddiau hynny. Cofiaf y byddwn yn gweled y diwrnod yn hir iawn—yn ddiddiwedd o hir. Byddwn yno fel rheol, am tua deuddeg awr. Rhaid oedd myned i mewn gyda'r siwrnai gyntaf, ac allan ar ôl yr olaf. Byddwn yn codi yn y bore tua hanner awr wedi pump, ac yn cyrraedd adref ryw ychydig wedi saith, ac ar ddydd Sadwrn byddwn yn codi am dri yn y bore, ac yn cyrraedd adref tua chwarter wedi pedwar yn y prynhawn. Ym mis Medi yr euthum dan ddaear i ddechrau, a threuliais o'r adeg honno hyd y Nadolig heb weled golau'r dydd, ond yn unig ar nawn Sadwrn a'r Sul. Y gyflog oedd swllt y dydd, ac arian y 'doctor', a rhyw fanion ereill yn cael eu cadw yn ôl! Carchar rhyfedd oedd hwn i blentyn y mynydd. Cofiaf yr oriau unig yn y gongl gerllaw'r drws! Ai awr heibio weithiau heb i mi weled na chlywed neb. Edrychwn i'r tywyllwch bythol ar bob llaw. Rhoddai fy llusern bŵl ddigon o olau i mi i weled y tywyllwch! Clywwn sŵn y diferyn unig yn disgyn—fel ticiadau hen gloc araf yn y pellter—yn myned i gyfeiriad arall. Os cofiaf yn iawn, dim ond rhyw bedair siwrnai yn y dydd ai heibio i mi yn ystod deuddeg awr. Deuai hiraeth poenus ataf ar adegau am y caeau, a'r defaid, a'r bryn, a'r mynydd. Ar awr o syched angerddol byddwn yn portreadu dylif croyw, eirias Ffrydiau Twrch' gerbron fy meddwl, ac yn meddwl fod haul yn tywynnu ar y caeau—a minnau yn y dyfnder du. Yr oedd pruddglwyf yn fy nghalon bob awr. Gyda mynwes drom lwythog yr awn i lawr y pwll bob bore—