Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mam yn eu hongian ar y seld, gan ofalu eu dangos i bob ymwelydd. Seld ramantus oedd seld y Ddôl Gam, dan gynhaeaf o rubanau gwobrwyon eisteddfodol. Byddwn yn mynychu Cyfarfodydd Llenyddol yng Nghwmllynfell, Cwm Twrch, Ystrad Gynlais, Brynaman, a Gwaen cae Gurwen.

Cofiaf fod mewn Eisteddfod yn Rhyd-y-Fro, ac ennill y cwbl o'r Farddoniaeth, dan feirniadaeth y Parch. D. Onllwyn Brace. Cofiaf ennill ar ystori yn Gwaen cae Gurwen, dan feirniadaeth "Beriah Gwynfe Evans". Yn Eisteddfod Rhyd-y-Fro enillodd ysgrifennydd y Waen yr "ystori", ac erbyn chwilio i mewn, fy ystori fuddugol i ydoedd! Yn raddol, tyfodd y penillion yn ganeuon a phryddestau, a'r englynion a'r mân gywyddau yn awdlau. Cyfansoddais bryddest faith yn 1883, ar "Ymdrech", a daeth yn ail am gadair, dan feirniadaeth Watcyn Wyn ym Mrynaman. Cefais uchel gymeradwyaeth hefyd gan Carnelian am bryddest i'r Gorffennol" yn yr Ynyshir- Watcyn Wyn yn fuddugwr. Yr un modd am bryddest "Y Groes yng Nglyn Ebwy. Pan yn cyfansoddi'r pryddestau hyn, ac amryw ereill, byddwn yn codi'n y bore tua phump o'r gloch, drwy'r gwanwyn a'r haf, ac yn myned allan i'r caeau, dan y coed, ac yn ysgrifennu gyda hwyl. Yna'n ôl i'r tŷ tua hanner awr wedi chwech, i gael brecwast, yna rhaid oedd wynebu'r lofa, a gorchwyl lled ddigalon oedd disgyn i ganol y twllwch llychlyd, a haul y bore'n addurno'r goedwig yr ochr arall i'r cwm. fy mod yn caru natur yr adeg honno. Deuai saeth i'm calon, a phang o hiraeth, wrth dremio, o enau'r drift, cyn rhoddi'r cam cyntaf i lawr, ar y coed dan haul melyn, a'r mynydd yn glasu'n y pellter, dan ffurfafen deg.

Hiraethwn am ddiwrnod arall ar y llechweddau.

Enillais £1:10:0 am gân ar "Aberaeron fel ymgyrchle ymwelwyr " yn Eisteddfod Aberaeron yn 1884. Cyfrifwn y fuddugoliaeth honno yn un go fawr. Euthum ati i gyfansoddi Awdl ar Rinwedd", ac er syndod i mi