Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gloch, ac i gongl un o'r caeau i weddio yno. Weithiau byddwn yn gweddio'n uchel, bryd arall yn dawel. Yr oeddwn i ym mhorth y Nef y dyddiau hynny.

Gweddiais yn "gyhoeddus" y tro cyntaf yn hen gapel Cwmllynfell, wrth y tân, ar nos acafol. Yr oedd grât mawr yn yr hen gapel, a darn o fur gwyngalchog o'i gwmpas, a sêt ysgwâr o'i flaen, fel aelwyd. Ar yr aelwyd grefyddol hon,—" yn Nhŷ ein Tad" y cynhelid cyfarfod gweddi y "bobl ieuainc". Arweinid y cyfarfod gan John Williams, byddem yn ei alw yn "John Williams fawr a Dafydd Bowen. Tua'r un adeg, os nad yn yr un cyfarfod, y dechreuodd y Parch. W. Griffiths, Ph.D. (Yale), Aber— ystwyth, yn awr. Bum yn lled ffyddlon i'r cyfarfod gweddi o'r adeg hon, gan gael fy ngalw yn fuan i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y rhai mewn oed, yn enwedig dechrau'r cwrdd ". Anrhydedd oedd dechrau'r cwrdd paratoad', a'm hannwyl weinidog yn siarad mor huawdl ar rannau o'r bennod a ddarllenid. Bum yn adrodd lawer gwaith yng nghyfarfod 'Pen Cwarter'—adrodd pennod, neu ddarnau o bregethau—pregethau J.R. yn enwedig. Darllenwn bopeth a ysgrifennai ef i'r "Cronicl", a gallaswn adrodd allan gryn lawer o'i "Gyfrol Olaf".

Ni allaf fod yn sicr pa bryd y daeth awydd dechrau pregethu ataf. Credaf ei fod ynof er yn fore iawn. 'Rwy'n sicr mai awydd pregethu yn un peth a gyfrifai am fy ngwaith yn myned allan yn y nos i weddio, a hefyd am fy ffyddlondeb i gwrdd y bobl ifanc. Ond nid oeddwn yn gallu dweyd fy awydd wrth neb, ac yr oedd cynifer o ddynion ieuainc yn dechrau pregethu y pryd hwnnw, fel y tybiwn nad oedd yr hen bobl yn fodlon i minnau hefyd ganlyn y lliaws. Pan yn edrych yn ôl ar fy awydd i ddechrau pregethu, a cheisio holi pa beth a gyfrifai am dano, credaf fod ynof yr adeg honno, ryw gymaint o awydd am wneud daioni a gwasanaethu Duw. Ond yr wyf yn berffaith sicr o un peth arall, sef fy mod am adael y lofa. Blinid fy mywyd yno, teimlwn yn barhaus fel un