Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac aeth i Fargoed at ei chwaer, ac yn ôl i'r lofa yno! Sym— udodd i Merthyr Vale; ail ddechreuodd bregethu yn gynorthwyol. Daeth yn ei flaen yn ei amgylchiadau, nes dod yn brif glerc cwmni glofaol. Daeth yn gyfoethog. Daliodd yn ffyddlon i Fethania, Merthyr Vale, gan bregethu yn achlysurol, a gwasanaethu swydd diacon yno. Bu'n cithriadol garedig i blant ei chwiorydd. Arhosodd yn hen lanc ar hyd ei ocs. Buom gyda'n gilydd, ef a minnau, am wyliau yn y Canary Islands—ac ail fyw yr hen amser— oedd. Hunodd tua diwedd 1928, ac euthum o Lundain i'w angladd, cefais siarad gair yn y capel, a gwelais osod ei gorff yn y ddaear, tan bren byth—wyrdd, ar ar fin y ffordd yng Nghladdfa Merthyr Vale. Yr wythnos ddilynol yr oeddwn i yn rhodio'r hen lwybrau yn yr hen ardal, a golau'r lloer yn disgleirio ar y gweunydd a'r caeau. Deuai rhyw iasau drosof wrth gofio ei fod yn gorwedd mewn gwely mor oer, dan leuad mor siriol—a minnau fy hunan ar yr hen lwybrau. Fe'm collais fy hun am rai munudau yn llwyr, tua naw o'r gloch y nos, ar y Cotia Mawr, wrth ymddiddan ag ef—ac yntau yn cysgu mor drwm. Ffarwel gyfaill mwyn. Siomedig a fu dy yrfa—eithr cedwaist dy ysbryd yn felys, a buost ffyddlon i'th gyfeillion i'r diwedd.

Cymdeithas gyson â Michael Thomas, a siarad ag ef ddydd a nos am bregethu a llyfrau; hefyd dylanwad fy athro William Price, a holl waith yr Eglwys yng Nghwm— llynfell, a feithrinodd ynof y duedd a'r awydd am bregethu. Ond gogyfer â mynd i bregethu, rhaid oedd (yn ôl arfer y cyfnod hwnnw) myned i ysgol a choleg, wedyn eglwys. Nid hawdd i mi oedd myned i'r un ysgol, gan mai myfi oedd yr unig fachgen erbyn hyn gartref gyda'm mam weddw a'm chwaer. Oblegid hyn deuai gofal tyddyn y Ddôl Gam arnaf yn raddol—ac yn hynny fy rhwymo wrth y byd. Ond nid oedd gennyf ddim diddordeb yn y tir na'r fferm, na'r gwaith. Ysgol a phregethu a llenydda oedd fy mryd. Yn sydyn agorwyd y drws i mi i gychwyn i'r ysgol, megis heb yn wybod i mi, ac i fod weddol onest, rhaid nodi rhai pethau yn y bennod nesaf.