Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgol—" bechgyn Jonah ". Deuthum yn ffafryn yn Eglwysi Capel Nonni a Drefach, a chefais lythyr dan law Dr. Williams i'm cymeradwyo i'r Bala.

Euthum i a John Gnol i sefyll arholiad y Bala ym mis Mawrth, 1886, wedi blwyddyn o ysgol baratoi. Taith nodedig o ddiddorol oedd honno. Torri tir newydd bob llathen wedi gadael Llanbedr Pont Stephan. Trên hamddenol y Manchester & Milford. Digon o hamdden i weled y caeau, a disgyn yn y gorsafoedd. Trefnasai y Parch. G. Parry, Llanbadarn i mi dreulio'r Sul cyn yr arholiad gydag ef. Daeth i'm cyfarfod i orsaf Aberystwyth. Pregethais yn ei le deirgwaith y Sul, ac yntau yn gwrando arnaf. Yn Llanbadarn fore a hwyr, ac yn y Comins Coch y prynhawn. Siaradodd yn galonogol iawn â mi. Cofiaf yn dda am y ddyletswydd deuluaidd, a Mrs. Parry yn drwm ei chlyw, a minnau'n gweddio i'r "corn du". Dyna un o'r cartrefi mwyaf defosiynol y bum erioed yn lletya ynddo. Ac er i'r "corn du" fy nharo yn chwithig nos Sadwrn, fel na wyddwn yn iawn pa fodd i weddio megis ag y dylwn, bu lletya yno yn fendith fawr i mi, a gwnaeth les i ysbryd un a oedd yn dechrau gwamalu yn ymyl gwaith mor bwysig. Yna, cyfarfod â'r ymgeiswyr yn Aberystwyth fore Llun, nifer ohonom. Mr. Parry wedi nodi ar fap pa le i newid—"Glan Dyfi, Barmouth Junction, Bala Junction (perhaps!)". Y fath ramant oedd pasio Towyn, a Dolgellau, ac yn enwedig Llanuwchllyn,— hen gartref Michael Jones, (nid oedd O.M. y pryd hwnnw wedi gwisgo'r lle ag anfarwoldeb newydd, er ei fod yn gwau'r fantell). Rhyfeddwn weled y lle mor fach a syml. Canu cryn lawer ar y ffordd i ddifyrru'r cyfeillion, ac i guddio'r pryder; yna gyda glan y llyn—drwy'r Junction i'r Bala.

Cael croesaw mawr gan y myfyrwyr. Trefnwyd i mi letya yn Aran House, ar y ffordd tuag at y llyn. Cynhelid yr arholiad yng nghapel yr Annibynwyr. Un-ar-bymtheg yn ymgeisio, a derbyn pedwar. Digwyddais fod ar ben