Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENDERFYNIADAU

Ar ddechrau fy mywyd Colegol yn y Bala, Gorffennaf 15, 1886—[1]

[1] Byw yn dduwiol; ymdrechu cadw o bob cwmni o chwaeth isel; gochelyd ymddiddanion llygredig; darllen cyfran o Air Duw yn ddyddiol; gweddio llawer; gwneyd fy ngorau ym mhob man ac ar bob amgylchiad i feithrin ac i gadw fy nheimladau crefyddol.

[2] Bod fy ngwersi i gael sylw dyladwy ond mai gwell i mi fod y wers heb ei gwneyd na bod fy nghorff wedi ei ofer—weithio wrth ei gwneyd.

[3] Bod fy iechyd i gael llawer o'm sylw, yn neulltuol y pethau canlynol—bwyta bwyd plaen a maethlon, codi yn forau, ymneulltuo i orffwys yn gynnar, cerdded llawer bob dydd.

[4] Byw bywyd tawel; peidio codi cynyrfiadau na dweud dim yn ddrwg am neb, a dioddef cam yn hytrach na gwneyd llawer o gynnwrf; byw yn annibynnol fel pe digwyddai i gyfaill droi'n anffyddlon y medrwn fyw arnaf fy hun; ceisio f'adnabod fy hun yn y gwahanol fannau a lleoedd y byddaf yn ymwneyd â hwy; rhoddi fy hun yn fodlon yn y gwahanol amgylchiadau gan ymddiried yn y Brenin Mawr.

[5] Bod pregethu i gael fy sylw manwl a difrifol; a phenderfynaf os oes i mi iechyd, cadernid corff a meddwl, ddyfod yn ddyn defnyddiol yn y byd, yn ddylanwadol yn y pulpud ac allan ohono; fod beth i ddweyd a sut i ddweud yn cael ei gadw mewn rhyw gilfach o'm meddwl yn barhaus; dyfod yn ddyn yn y cyfeiriad hwn ydyw fy nod ac nad oes dim methu ei gyrraedd i fod os na fetha'r corff neu'r meddwl ac er mwyn cyrraedd y nod hwn y ffurfiwyd ac y ffurfir pob

  1. Trawyd ar y penderfyniadau uchod o'i eiddo ymhlith ei lawysgrifau, a chredaf y byddant o ddiddordeb.