Byddai Marged yn sicr o briodi'n dda. Pa eisiau gofidio wedi'r cwbl? Byddai Abram mewn ffordd i helpu heb fod hir. Yr oedd wedi dechrau ar ei waith ers tri mis. yn Ymhen llai na blwyddyn arall byddai Lewis allan o'r coleg. Deuai ef i ennill cyflog dda fel ysgolfeistr. Ni byddai Doctor Prys yn hir cyn cael ei bum cant yn ôl, a gallai Huws y Siop orffen â'i wincio.
Daeth y dref fach gysglyd, dawel, i'r golwg. O flaen siop fechan ar fin y dref, parodd Benjamin Lewis i Darbi aros, a dywedodd, "Disgyn, Leisa! (Yr oedd Lisi Ann yn enw rhy rodresgar iddo ef i'w ddefnyddio. Rhyw ddwli ar ran Mali a'r merched oedd yr enw hwnnw.)
"Cer i'r siop 'na, a gofyn am werth dime o fatshis a gwerth dime o felys."
"A ga i un o'r fale coch 'na, Data?" ebe Miriam.
"Hwre 'te, Leisa. Dyma geinog arall. Dere â gwerth ceinog o fale hefyd."
Cafodd y ddwy sefyll gyda'u tad ar y platfform i weld y traen yn dyfod i mewn,—rhyfeddod ananghofiadwy iddynt. Agorodd drysau, a daeth y brawd a'r chwaer tuag atynt. Edrych arnynt i gyd a dweud "Helo!" a wnaeth Lewis, ond ysgydwodd Marged law â'u tad a chusanodd ei dwy chwaer fach a dweud "Hallo, dears!" mewn llais bonheddig. Nid oedd y ddwy yn gyfarwydd â chael eu cusanu'n gyhoeddus fel hyn, ond teimlent fod y peth yn rhan o fywyd pobl oedd wedi bod gyda'r traen. Edrychai'r ddwy ar eu chwaer mewn syndod addolgar. Yr oedd Marged yn dal, ei gwallt wedi ei drefnu'n uchel ar ei phen, a'i hat fach yn codi tuag yn ôl yn gwneud iddi edrych yn dalach fyth. Ac yr oedd ei chanol feinach nag un canol a welsent erioed o'r blaen. Yr oedd yn fonheddig yn ei gwisg, ei gwedd, ei cherddediad a'i llais. Yr oedd ganddynt chwaer yn ferch fonheddig!