ieuanc yn slums Llundain a ddioddefant ac a orfoleddant ac a fendithiant eraill yn yr un modd. Y mae un ohonynt, er enghraifft, yn gaeth i'w gwely mewn ystafell ddeg troedfedd sgwâr, a dim ond wal bricks yn y golwg. Ni welodd yr haul ers deng mlynedd, eithr y mae ei hwyneb yn disgleirio gan oleuni na fu erioed ar dir na môr. I mi, y mae hyn yn fwy o wyrth na'i chodi ar ei thraed a gwella'i chorff. Efallai mai ychydig yw nifer y rhai a all ddal gogoneddu dioddefaint, a gogoneddu Duw mewn dioddefaint, fel hyn. "Ewyllys Duw yw eich santeiddiad chwi," a ddywaid Paul.
Nid yw yr angina pectoris yn fy mlino mwyach. Yr wyf, serch hynny, yn cadw mewn cof yr anhawster a gâi Rowlands, Llangeitho, i "gredu heb ryfygu."
So, take and use Thy work:
Amend what flaws may lurk,
What strain o' the stuff, what warpings past the aim!
My times be in Thy hand!
Perfect the cup as planned!
Let age approve of youth, and death complete the same!