Ni allaf ddweud bod fy nghariad at "y pethau oedd yn elw i mi," anrhydedd, safle, enw—gwahanol ffurfiau gwag-ogoniant—wedi "syrthio ymaith fel hugan" (Pennod III), ond gallaf ddweud gyda Phantycelyn eu bod "yn gwywo i gyd." Yr oeddwn yn rhinweddol wedi eu "cyfrif yn golled" wrth dderbyn Iesu yn Arglwydd. Eto, un peth yw gwneud hynny'n gyffredinol, yn y crynswth; peth arall yw ei gario allan yn ei fanylion. Peth arall eilwaith yw cael bod proses o wywo wedi bod ar waith a bod "teganau'r ddaear " yn "ddiflannu'n ddim." Dug hyn foddhad santaidd gydag ef, am' na allwn lai na'i gyfrif yn braw o gynnydd ysbrydol yn y dyn oddi mewn, a bod gwaith y greadigaeth newydd yn mynd ymlaen yn y dwfn. Clywswn ddywedyd bod dwy ail-enedigaeth, y gyntaf o'r naturiol i'r ysbrydol, a'r ail o'r ysbrydol i'r naturiol, h.y., pan fo'r ysbrydol wedi dod yn naturiol, neu ynteu yr uwch-naturiol yn dod yn naturiol uwch, a chredwn fod hynny'n digwydd yn awr yn fy hanes i. Eithr fel na'm tra-dyrchefid gan hunandyb, fe'm ducpwyd gan y Barwn Von Hügel i gyswllt â'r Curé d'Ars a'r Abbé Huvelin (Pennod X). Yr hyn a ddysgais ganddynt hwy—drwy ei weld ynddynt yn bennaf, gan mai ychydig a ysgrifenasant—oedd (1) mai ochr arall mawredd neu gynnydd ysbrydol yw bychander neu ddifodiant anianol, a (2) bod yr awdurdod dechreuol—yr initiative—ynglŷn â hyn i'w adael yn llaw Duw.
"Gwelir gweithrediad yr egwyddor marw i fyw" yn hanes y saint oll, ac yr wyf yn dra sicr mai nid mater o fwynhad deallol neu ddychmygol oedd fy niddordeb blaenorol ynddynt; ond er fy mod yn gwybod mai "cyfyng yw y porth," yr oeddwn heb lawn