yn brif ddiddordeb yr enaid, ac yn ei feddiannu'n gyfangwbl ymron.
Y tu ôl i'r anturiaethau hyn i geisio dod o hyd i'r bywyd llawnach, gorwedd cyfnod bore oes dan orchudd o hyd, a chan mai ynddo ef y mae eu dechreuadau, hawlia sylw wrth basio yn y bennod gyntaf hon. Ardal wledig, dawel, oedd ardal y Drewen yn yr hen amser, ac nid yw'n wahanol iawn heddiw, ond bod y tai to gwellt, fel y crefftwyr gwlad, wedi mynd, a'r bus yn ei dwyn i fwy o gyswllt â'r byd mawr. Y mae'r hen brydferthwch mewn bryn a dyffryn a dôl yn aros heb ei ddifwyno gan fasnach a chelfyddyd. Y mae'r siop ac efail y gof yno o hyd. ond nid yw y naill yn ganolfan masnach yr ardal fel cynt, na'r llall yn gyrchfan ei gwleidyddwyr. Hyd yn oed y pryd hwnnw nid oedd yr ardalwyr heb wybod llawer am hanes y byd drwy'r Faner fach a'r Faner fawr, a marced Castellnewydd, a sôn dim am bresenoldeb y gwŷr yng ngweithfeydd Mynwy a Morgannwg. Yr oedd y fro yn ferw adeg etholiad 1868, a chofiaf yn dda am Mr. Davies (" Squire ") Cilfallen, yn dod i lawr i Gwmcoy bob bore i gyfarfod y llythyrgludydd adeg y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani, a darllen yr hanes yn yr efail, gan ddatgan ei syndod mai'r olaf
oedd yn ennill y dydd ar waethaf ei broffwydoliaeth ef. Os na ellir dweud bod dim eithriadol yn ein cylchfyd agos i symbylu'r meddwl ieuanc i gyfeiriad art a llên a chrefydd, nid oedd yn gwbl ddifywyd yn un o'r cyfeiriadau hyn. Heblaw a ddysgem yng nghôr y Drewen, a dosbarth y solffa dan Eos Gwenffrwd, yr oedd Tomi Morgan a'i gôr yn perfformio gweithiau'r meistri yng Nghastellnewydd yn ymyl, a hyd yn oed yn mentro cystadlu—a chystadlu'n llwyddiannus—